Llafur
Ystyr gyffredinol y gair llafur yw gwaith, yn enwedig gwaith corfforol sy'n treulio egni'r un sy'n ei gyflawni.[1] Ym maes economeg, mae llafur yn disgrifio'r hyn a wneir gan y gweithlu ar gyfer y cyflogwyr. Gall gyfeirio at unrhyw wasanaeth o werth a wneir gan unigolyn wrth gynhyrchu cyfoeth, ac eithrio'r gweithgareddau sy'n cronni ac yn darparu cyfalaf neu sy'n derbyn y peryglon sydd ynghlwm wrth fentrau busnes. Mae'n crybwyll yr holl waith a wneir gan weithwyr cyflogedig, boed yn fedrus neu'n ddi-grefft, sydd yn llenwi'r oriau gwaith, ac felly'n cymryd cyfran sylweddol o oes yr unigolyn i ennill ei dâl.[2] Gall llafur a llafurlu hefyd fod yn enwau ar y dosbarth gweithiol, neu'r gweithlu cyflogedig oll, yn enwedig o'i gyferbynnu â dosbarth y cyflogwyr a'r cyfalafwyr.[1]
Yn oesoedd yr Henfyd, gwneid y rhan fwyaf o waith llafur gan gaethweision. Yn sgil datblygiad y drefn ffiwdal, gwneid gwaith amaethyddol gan y taeog, y bilain, neu'r gwerinwr caeth. Yn y trefi, crefftwyr oedd yn gwneud gwaith llaw medrus, ac roedd y rhain yn uwch eu statws na'r llafurwyr di-grefft. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 18g, diflannodd nifer o swyddi corfforol o ganlyniad i beirianeiddio, gan greu gwarged llafur. Yn sgil cystadleuaeth yn y farchnad lafur a gostyngiad mewn cyflogau'r gweithwyr, datblygwyd ffurfiau ar gytundebau llafur megis yr indentur. Erbyn diwedd y 19g, roedd amodau gwaith yn y gwledydd diwydiannol wedi gwella o ganlyniad i ymgyrchoedd gwleidyddol a chymdeithasol a dulliau'r mudiad llafur megis streicio a chydfargeinio.
Ers dyddiau Adam Smith a'r economegwyr clasurol, mae damcaniaethwyr economaidd wedi ceisio llunio ffyrdd i symleiddio a mesur llafur. Tybiodd David Ricardo y dylid mesur gwerth nwydd yn nhermau'r llafur sydd wedi ei gynhyrchu. Mabwysiadwyd y ddamcaniaeth hon yn ddiweddarach gan Karl Marx, wrth iddo ddadlau bod y gyfundrefn gyfalafol yn creu gorwerth.[3] Yn ôl Marcsiaeth, mae diddordebau'r dosbarth llafur, neu'r proletariat, a'r dosbarth cyfalafol, neu'r fwrdeisiaeth, yn naturiol groes i'w gilydd. Dadleuir bod y cyfalafwyr yn ecsbloetio'r dosbarthiadau is drwy ymelwa ar oriau gwaith a nerth corfforol y llafurwyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 llafur. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2019.
- ↑ (Saesneg) Labour. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2019.
- ↑ Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), t. 239.