Llifon
Gwedd
Un o ddau gwmwd Cantref Aberffraw ym Môn yn Oes y Tywysogion oedd Llifon. Roedd yn gorwedd i'r gogledd o'r cwmwd arall, Malltraeth ac yn ffinio hefyd â rhan o gwmwd Menai (cantref Rhosyr) a chantref Cemais yn y dwyrain. Roedd rhan ddeheuol Ynys Gybi yn y cwmwd yn ogystal.
Roedd y cwmwd yn cynnwys sawl treflan ac aneddle ond ni wyddys i sicrwydd pa un oedd y maenor (prif dref y cwmwd).
Ganed y bardd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527) yng nghwmwd Llifon tua chanol y 15g.
Plwyfi
[golygu | golygu cod]Roedd tri phlwyf ar ddeg yn y cwmwd:
- Bodwrog
- Ceirchiog (Betws y Grog)
- Llanbeulan
- Llandrygarn
- Llanfaelog
- Llanfair-yn-Neubwll (Llanfair)
- Llanfihangel-yn-Nhywyn
- Llanynghenedl
- Llanllibio
- Llantrisant
- Llechgynfarwy
- Llechylched
- Rhodogeidio