Llywelyn ap Gruffudd Fychan
Gwedd
Llywelyn ap Gruffudd Fychan | |
---|---|
Cofeb Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn Llanymddyfri | |
Ganwyd | 1341 Caeo |
Bu farw | 9 Hydref 1401 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Sgwïer o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan (1341? - 9 Hydref 1401). Roedd yn un o arweinwyr lleol Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y Deheubarth; cafodd ei ddienyddio am ei ran yn y gwrthryfel hwnnw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyn Dŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei ddienyddio yn Llanymddyfri yn Hydref o'r un flwyddyn.
Cof
[golygu | golygu cod]Codwyd cerflun i'w goffáu ger Castell Llanymddyfri yn 2001, ar chwechan mlwyddiant ei ddienyddiad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]