Neidio i'r cynnwys

Llywodraeth Vichy

Oddi ar Wicipedia
Llywodraeth Vichy
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg, regime, Gwladwriaeth byped Edit this on Wikidata
Daeth i ben29 Awst 1944 Edit this on Wikidata
Label brodorolÉtat français Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu10 Gorffennaf 1940 Edit this on Wikidata
Map
Rhagflaenyddy Drydedd Weriniaeth Ffrengig Edit this on Wikidata
OlynyddProvisional Government of the French Republic Edit this on Wikidata
Enw brodorolÉtat français Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr ardal a reolid gan Lywodraeth Vichy mewn porffor.

Llywodraeth Vichy oedd llywodraeth y rhan ddeheuol o Ffrainc yn y cyfnod 1940-1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dilyn Brwydr Ffrainc. Galwai'r wladwriaeth ei hun yn État français ("Gwladwriaeth Ffrainc"), dan reolaeth y marsial Philippe Pétain, a defnyddiai ddinas Vichy yn Allier fel prifddinas. Yn ymarferol, roedd dan reolaeth yr Almaen Natsïaidd.

Roedd Pétain wedi olynu Paul Reynaud fel arweinydd Ffrainc ar 16 Gorffennaf 1940. Ar 22 Mehefin, ildiodd byddinoedd Ffrainc i'r Almaen yn Compiègne. Dan y cytundeb, roedd yr Almaen i feddiannu gogledd a gorllewin Ffrainc, tra roedd y gweddill o Ffrainc a'i threfedigaethau i fod dan lywodraeth hanner-annibynnol. Cytunodd Pétain, oedd yn 84 oed, i weithredu fel pennaeth y wladwriaeth yma. Penododd Pierre Laval a François Darlan fel dirprwyon iddo.

Wedi i'r Cyngheiriad lanio yn y gogledd-orllewin yn 1944, symudodd yr Almaenwyr Lywodraeth Vichy i Belfort ac yn nes ymlaen i Sigmaringen yn yr Almaen. Wedi buddugoliaeth y Cyngheiriaid, dienyddiwyd nifer o aelodau o'r llywodraeth, yn eu plith Laval, am deyrnfradwriaeth, tra dedfrydwyd Pétain i garchar am oes.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]