Neidio i'r cynnwys

Môr-wennol fach

Oddi ar Wicipedia
Môr-wennol fach
Sterna albifrons

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Sternula[*]
Rhywogaeth: Sternula albifrons
Enw deuenwol
Sternula albifrons
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna albifrons; yr enw Saesneg arno yw Little tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. albifrons, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ar arfordir Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Fel y rhan fwyaf o'r môr-wenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.

Mae'r fôr-wennol yn aderyn gymharol fechan, 21–25 cm o hyd a 41–47 cm ar draws yr adenydd.

Is-rywogaethau

[golygu | golygu cod]

Ceir tair is-rywogaeth, S. a. albifrons yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, S. a. guineae yng ngorllewin a chanolbarth Affrica, a S. a. sinensis yn nwyrain Asia a gogledd a dwyrain Awstralia.

Ar un adeg roedd y fôr-wennol fechan yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf, ond erbyn hyn dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Gronant yn y gogledd-ddwyrain.

Mae'r fôr-wennol fach yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Chroicocephalus bulleri Chroicocephalus bulleri
Chroicocephalus cirrocephalus Chroicocephalus cirrocephalus
Gwylan Bonaparte Chroicocephalus philadelphia
Gwylan Hartlaub Chroicocephalus hartlaubii
Gwylan arian Chroicocephalus novaehollandiae
Gwylan benddu Chroicocephalus ridibundus
Gwylan benfrown De America Chroicocephalus maculipennis
Gwylan benfrown India Chroicocephalus brunnicephalus
Gwylan ylfinfain Chroicocephalus genei
Gwylan yr Andes Chroicocephalus serranus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Sternula albifrons albifrons

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Môr-wennol fach gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.