Mandy Rice-Davies
Gwedd
Mandy Rice-Davies | |
---|---|
Ganwyd | 21 Hydref 1944, 1 Hydref 1944 Mere |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2014 o canser Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, model, hunangofiannydd, perchennog bwyty |
Roedd Mandy Rice-Davies (21 Hydref 1944 – 18 Rhagfyr 2014)[1][2] yn enwog am ei rôl yn Helynt Profumo - affêr a oedd yn embaras mawr i Lywodraeth Geidwadol Harold Macmillan yn 1963.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni ym Mhont-iets cyn symud i Solihull yn Lloegr. Roedd ei thad yn heddwas a'i mam yn actores. Yn 15 oed dechreuodd fodelu mewn siop ddillad yn Birmingham. Roedd hi'n ffrind i'r model Christine Keeler. Yn achos llys Stephen Ward, cyfaddefodd iddi gael rhyw gyda'r dŷn busnes Emile Savundra.
Mae'r cyfenw 'Rice' yn Seisnigiad o 'Rhys' ac roedd Mandy'n perthyn yn agos i deulu neu etifeddion Yr Arglwydd Rhys.
Chwaraewyd rôl Mandy yn y ffilm Scandal (1989) gan Bridget Fonda.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BBC News - Profumo affair's Mandy Rice-Davies dies at the age of 70". BBC News.
- ↑ "Profumo affair's Mandy Rice-Davies dies aged 70". Telegraph.co.uk. 19 Rhagfyr 2014.