Masnach deg
Enghraifft o'r canlynol | masnach, cangen economaidd, mudiad cymdeithasol |
---|---|
Math | masnach |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad cymdeithasol sy'n ceisio helpu ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol i gael prisiau teg am eu cynnyrch a hyrwyddo cynaladwyedd ydy Masnach Deg. Mae'n canolbwyntio ar allforion celf a chrefft, coffi, siwgr, te, banana, mêl, cotwm, gwin[1], ffrwythau ffres, siocled, blodau ac aur.[2]
Cymru - y genedl fasnach deg gyntaf
[golygu | golygu cod]Ar 11 Gorffennaf 2008 daeth Cymru'n 'Genedl Masnach Deg' gynta'r byd, pan lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch Masnach Deg. Ymhlith cefnogwyr yr ymgyrch hon roedd nifer o sefydliadau gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, Oxfam Cymru, a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.[3] Flwyddyn cyn hynny, pasiodd Llywodraeth Cymru 'Fesur Masnach Deg Cenedl Cymru', a nododd ei hymrwymiad i hyrwyddo arferion Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg.
Yn 2019, cynhaliwyd y 13eg Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol yng Nghaerdydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Moseley, W.G. 2008. “Fair Trade Wine: South Africa’s Post Apartheid Vineyards and the Global Economy.” Globalizations, 5(2):291-304.
- ↑ David Brough, "Briton finds ethical jewellery good as gold" Archifwyd 2011-08-12 yn y Peiriant Wayback, Reuters Canada, 10 Ionawr 2008
- ↑ masnachdeg.cymru; adalwyd 11 Gorffennaf 2023.