Neidio i'r cynnwys

Maureen Rhys

Oddi ar Wicipedia
Maureen Rhys
GanwydMaureen Jones Edit this on Wikidata
Cwm-y-glo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodJohn Ogwen Edit this on Wikidata

Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru yw Maureen Rhys (ganwyd 1944). Ganed yn Nghwm-y-glo, ger Caernarfon, Gwynedd. Magwyd gan ei nain, a mynychodd Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug. Astudiodd ym Mhrifysgol Bangor.[1][2]

Mae wedi gweithio fel actores ar lwyfan a theledu ers y 1960au. Mae wedi cydweithio'n aml gyda'i gŵr, yr actor John Ogwen. Perfformiodd gyda John yn nrama Y Tŵr gan Gwenlyn Parry, drama a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978.

Chwareodd Bet yn y ffilm Tywyll Heno, addasiad o nofel Kate Roberts. Bu'n portreadu Marged Vaughan yn yr addasiad teledu cyntaf o Cysgod Y Cryman i BBC Cymru yn y 1960au a Greta yn y gyfres deledu Lleifior i S4C yn y 1990au.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd John Ogwen yn 1966, wedi'r ddau gyfarfod ym mhrifysgol Bangor.[3] Mae ganddynt dri o blant ac maent yn byw ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Proffil John Ogwen. BBC Cymru.
  2.  Linda Roberts (9 Ionawr 2002). Portrait of an actress. Caernarfon Herald.
  3. 3.0 3.1 "John Ogwen a Maureen Rhys yn 80: Dathliad o fywyd a gyrfa". BBC Cymru Fyw. 2024-08-23. Cyrchwyd 2024-08-23.
  4.  Maureen O’Cwm?!. Caernarfon Online (19 Rhagfyr 2006). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.