Mec Vannin
Plaid wleidyddol yn Ynys Manaw sy'n anelu am annibyniaeth i'r wlad Geltaidd honno yw Mec Vannin (Manaweg, yn golygu "Meibion Manaw"). Wedi ei sefydlu yn 1962, mae'n ceisio gwrthdroi statws presennol Manaw fel tiriogaeth ddibynnol ar Goron Prydain a sefydlu gwladwriaeth sofrannaidd, a fyddai'n weriniaeth. Ei arlywydd presennol yw Bernard Moffatt.
Mae'n disgrifio ei bwriadau fel:
Cael annibyniaeth genedlaethol i Ynys Manaw fel gwladwriaeth sofrannaidd, yn seiliedig ar ffurf lywodraeth weriniaethol. I hyrwyddu a diogelu buddiannau Ynys Manaw. I amddiffyn hawliau unigol a chymunedol ei phobl.[1]
Cyfeirir ati weithiau gan rai - ond nid fel rheol gan yr aelodau eu hunain - fel "Plaid Genedlaethol Ynys Manaw" ("Manx Nationalist Party"), ond gallai hyn peri dryswch am fod Plaid Genedlaethol Ynys Manaw yn enw a ddefnyddid gan ddwy blaid arall yn y gorffennol.
Un o'r pethau a symbylodd sefydlu'r blaid oedd y mewnfudo i'r ynys gan Saeson cyfoethog am ei bod yn hafan treth. Mae Mec Vannin am atal y mewnfudo, a welir fel bygythiad i hunaniaeth pobl Manaw, a chael cenedligrwydd Manawaidd swyddogol gyda phasbort Manawaidd.
Mae'r blaid am weld sefydlu prifysgol i Ynys Manaw, diogelu'r diwydiant pysgota ac amaethyddiaeth, adfywio twristiaeth, a gwarchod yr amgylchedd, e.e. trwy blannu coed.
Cyhoeddir papur newydd dwyieithog Manaweg-Saesneg Yn Pabyr Seyr ("Y Papur Rhydd").
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mec Vannin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-04-04. Cyrchwyd 2008-05-25.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2012-02-09 yn y Peiriant Wayback