Meghalaya
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | cwmwl |
Prifddinas | Shillong |
Poblogaeth | 3,211,000 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Conrad Sangma |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Garo, Khasi |
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 22,429 km² |
Yn ffinio gyda | Assam, Sylhet Division |
Cyfesurynnau | 25.57°N 91.88°E |
IN-ML | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Meghalaya Legislative Assembly |
Corff deddfwriaethol | Meghalaya Legislative Assembly |
Pennaeth y wladwriaeth | Tathagata Roy |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Meghalaya |
Pennaeth y Llywodraeth | Conrad Sangma |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.585 |
Mae Meghalaya yn dalaith fechan yng ngogledd-ddwyrain India. Ystyr yr enw "Meghalaya" yn Hindi a Sanskrit yw "Cartref y Cymylau". Mae'r dalaith tua 300 km o hyd o'r gorllewin i'r dwyrain a thua 100 km o'r gogledd i'r de. Yn 2000 roedd y boblogaeth yn 2,175,000. Mae'r dalaith yn ffinio ar Assam yn y gogledd a Bangladesh yn y de. Shillong yw'r brifddinas, gyda phoblogaeth o 260,000.
Mae tua thraean o'r dalaith yn goedwig, sy'n cynnal amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, adar ac anifeiliaid.
Ffurfiwyd taliaith Meghalaya ar 21 Ionawr 1972 trwy gyfuno dwy ardal oedd cynt yn rhan o dalaith Assam: Bryniau Khasia a Jaintia Unedig a Bryniau Garo. Mae tua 85% o boblogaeth y dalaith yn bobl lwythol; y Khasi yw'r grŵp mwyaf. Cristionogaeth yw'r grefydd fwyaf yn y dalaith, sy'n un o dair talaith yn India lle mae Cristionogion yn y mwyafrif.
Meghalaya yw'r dalaith wlypaf yn India, gyda 1200 cm o law y flwyddyn mewn ambell ardal. Tref Cherrapunji ym Mryniau Khasia sy'n dal record y byd am y cyfanswm mwyaf o law mewn mis.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |