Meir Dizengoff
Meir Dizengoff | |
---|---|
Ganwyd | Меер Янкелевич Дизенгоф 25 Chwefror 1861 Bessarabia |
Bu farw | 23 Medi 1936 Tel Aviv |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd, person busnes, cemegydd |
Swydd | Mayor of Tel Aviv-Yafo, Mayor of Tel Aviv-Yafo |
Plaid Wleidyddol | General Zionists |
Priod | Zina Dizengoff |
Seionydd gweithredol a maer gyntaf dinas Tel Aviv oedd Meïr Dizengoff (Hebraeg: מאיר דיזנגוף, Rwsieg: Меер Янкелевич Дизенгоф), 25 Chwefror 1861 a bu farw ar 23 Medi 1936. Roedd yn ddyn busnes llwyddiannus, sefydlydd sawl menter ariannol, ac un o arloeswyr Chofefei Tsion (Hebraeg: חובבי ציון; yn llythrennol "Carwyr Seion").
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Akimovici, Bessarabia, Ymerodraeth Rwsia (bellach, Echimăuți yn Moldofa). Symudodd teulu Dizengoff i Kishinev (bellach Chișinău, prifddinas Moldofa) yn 1878. Astudiodd yn y politechneg yno ac ymunodd â'r fyddin Rwsiaidd gan wasanaethu yn Iwcrain ac yno y cyfarfu â'i ddarpar wraig, Zina Brenner. Symudodd i Odessa lle ymunodd gyda'r grŵp chwyldroadol, tanddaearol, Narodnaya Volya. Yn 1885 arestiwyd efo mewn gwrthdystiad ac yno y cwrddodd â Leo Pinsker ac Ahad Ha'am daeth gan ymuno â'r Hovevei Zion. Wedi ei ryddhau o'r carchar, aeth i Brifysgol Paris lle astudiodd Cemeg Peirianyddol. Daeth yn gynrychiolydd yn y Gyngres enwog Seinostaidd gyntaf Basel yn 1887.[1]
Ym Mharis cyfarfu â'r diwydiannydd o Iddew, Edmond de Rothschild. Danfonodd Rothschild efo i Balesteina (a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid) er mwyn sefydlu ffowndri wydr yn Tantura yn 1892. Yn anffodus, methiant bu'r fenter oherwydd ansawdd amhur y tywod. Dychwelodd i Kishinev lle cyfarfu â Theodore Herzl. Er fod Dizengoff yn anghytuno â phenderfyniad Herzl i gefnogi'r fenter yn y 6ed Gyngres Seinoistaidd i sefydlu gwladfa Iddewig yn Wganda, daeth y ddau yn gyfeillion ac roedd Dizengoff yn gefnogwr brwd ohono.
Palesteina
[golygu | golygu cod]Yn 1905 symudodd Dizengoff i Balesteina oherwydd ei ddaliadau Seionaidd cryf gan fyw yn Jaffa. Sefydlodd gwmni Geulah a brynodd tir oddi ar yr Arabiaid a daeth mewnforio offer peirianyddol, yn enwedig ceir. Sefydlodd hefyd gwmni cychod yn ei enw, ac roedd yn Gonswl i Wlad Belg. Pan glywodd Dizengoff fod Iddewon yn trefnu i brynu tir i adeiladu maestref newydd Iddewig, sefydlodd bartneriaeth gyda chwmni Ahuzat Bayit ("adeiladu tai") a brynodd dir ar dwyni tywod nTel Aviv, nid nepell o Jaffa, a'u becynnu i'w gwerthu'n barseli i'r gwladychwyr. Enw'r maestref newydd yma a sefydlwyd yn 1909 oedd Ahuzat Bayit, ond newidiwyd yr enw y flwyddyn wedymn i Tel Aviv, ("bryn y ffynnon") ac teitl fersiwn Hebraeg o lyfr enwog Altneuland Herzl.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf diarddelwyr ef a holl Iddewon Tel Aviv o'r dref gan y Twrciaid. Dychwelasant wedi'r Rhyfel pan oedd Twcri, bellach, wedi colli ei hymerodraeth a Phrydain bellach yn rheoli Palesteina.
Maer Tel Aviv
[golygu | golygu cod]Daeth Dizengoff yn bennaeth cynllunio trefol Tel Aviv yn 1911 ac yn faer ar y dref pan ddaeth hi'n ddinas yn 1922. Roed yn Faer hyd nes ei farwolaeth yn 1936 (heblaw am rhwng 1925-28). Rhwng 1927 a 1929, ef oed pennaeth y mudiad Seionaidd.
Fel Maer goruchwyliodd gyfnod o dwf parhaus gyda'r boblogaeth yn tyfu o 14,000 yn 1920 i 150,000 yn 1937 (blwyddyn wedi ei farwolaeth).[2]
Roedd Dizengoff yn awyddus i hybu economi a diwylliant y ddinas newydd a ddaeth yn symbol o lwyddiant modernaidd Seioniaeth. Sefydlodd Ffair Lefant Levant Fair (Hebraeg: Yarid HaMizrah) gyntaf yn 1932 a oedd yn ffair fasnach ac hamdden. Pan ddechreuodd y Gwrthryfel Arabaidd yn 1936, caewyd porthladd Jaffa i geisio stopio'r mewnfudo gan Iddewon oedd yn dianc rhag Hitler. Adeiladodd Dizengoff borthladd yn Tel Aviv. Llwyddodd i agor y porthladd y flwyddyn honno gyda'r geiriau, "Foneddigion a foneddigesau, gallaf gofio adeg pan nad oedd gan Tel Aviv ei phorthladd. Bu farw ar 23 Medi 1936.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]In 1930, wedi marwolaeth ei wraig, cymunroddodd Diengoff ei eu tŷ ar 16 Rhodfa Rothschild (שדרות רוטשילד Sderot Rotshild) i'r ddinas gan ofyn iddo droi'n amgueddfa. Gwnaed ymhelaethau sylweddol iddo a ddaeth yn Amgueddfa Celf Fodern Tel Aviv yn 1932. Symudodd yr amgueddfa i'w lleoliad cyfredol yn 1971. Ar 14 Mai 1948, datganodd David Ben-Gurion ddatganiad annibyniaeth Israel o'r tŷ hwn. Ceir yno bellach amgueddfa ac fe'i elwir yn Neuadd Annibyniaeth.
- Parc Meir גן מאיר Gan Meir
- Stryd Dizengoff רחוב דיזנגוף Rehov Dizengoff
- 'lehizdangeff' mae'r ferf Hebraeg yma yn golygu "i gerdded lawr Dizengoff [yr hen brif stryd]," h.y. i fynd allan ar noson yn y dre
Personol
[golygu | golygu cod]Priododd â Zina (1872-1930) yn Alexandria, Yr Aifft yn 1893. Roedd hi'n ferch i rabbi ac hi ei hun yn athro Ffrangeg. Bu gan y cwpwl ferch ond bu farw'r faban bach dau fis oed. Tra bod ei gŵr yn faer Tel Aviv, mae'n cymryd byw ac yn annog y celfyddydau y fwrdeistref newydd. Maent wedi'u claddu gyda'i gilydd ym Mynwent Trumpeldor. Ym 1938, cysegrwyd Sgwâr Zina Dizengoff yn Tel Aviv.
Enw'r Dizengoff yw cyfenw Bwlgareg Dizeng, enw hynafol a gynhaliwyd gan rhaglaw Omourtag Khan (814-831).[3]