Mike Phillips
Enw llawn | William Michael Phillips | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 29 Awst 1982 | ||
Man geni | Caerfyrddin | ||
Taldra | 191 cm (6 tr 3 mod) | ||
Pwysau | 101 kg (15 st 13 lb) | ||
Ysgol U. | Ysgol Whitland | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Scrum-half | ||
Clybiau proffesiynol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | (pwyntiau) |
2001–05 2005–07 2007–11 2011–13 2013–16 2016– |
Scarlets Llanelli Gleision Caerdydd Ospreys Bayonne Racing 92 Sale Sharks |
64 48 60 49 57 |
(74) (40) (25) (25) (15) |
yn gywir ar 14 Mai 2016. | |||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
2003–2015 2009,2013 |
Cymru Y Llewod |
94 5 |
(45) (5) |
yn gywir ar 8 Medi 2015. |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm Baiona a Chymru yw William Michael "Mike" Phillips (ganed 29 Awst 1982. Mae'n chwarae fel mewnwr.
Ganed ef yng Nghaerfyrddin, a bu'n chwarae fel blaenasgellwr i dîm rygbi Caerfyrddin. Yn ddiweddarach, symudodd i safle mewnwr; yn 6 troedfedd a 3 modfedd o daldra, mae'n anarferol o fawr i fewnwr.
Bu'n chwarae i Scarlets Llanelli, gan chwarae ei gêm gyntaf iddynt pan oedd yn 20 oed. Roedd yn cystadlu yn erbyn Dwayne Peel am safle'r mewnwr yma, a symudodd i dîm Gleision Caerdydd yn 2005. Yn Chwefror 2007 cyhoeddwyd ei fod yn symud i'r Gweilch. Credid y byddai'n ail ddewis fel mewnwr yno, gan ei fod yn cystadlu â Justin Marshall am y safle, ond llwyddodd i ennill ei le yn y tîm.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2003, yn erbyn Rwmania, gan sgorio cais. Roedd yn cystadlu â Dwayne Peel am safle'r mewnwr yn nhîm Cymru, a chyfyngodd hyn ar nifer ei gapiau am gyfnod. Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, ef a ddewiswyd yn hytrach na Peel gan yr hyfforddwr newydd Warren Gatland, a chwaraeodd ymhob gêm pan enillwyd y Gamp Lawn.