Neidio i'r cynnwys

Moroedd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Moroedd Cymru
Enghraifft o'r canlynoldyfroedd tiriogaethol, môr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Mae Moroedd Cymru'n cynnws y môr o gwmpas arfordir Cymru hyd at 24 milltir (uchafswm). Ystyrir Moroedd Cymru (The Welsh marine area) yn asedau gwerthfawr, yn rhan annatod o hanes Cymru a'i mytholeg, ei heconomi a'i ffordd o fyw. Ceir ynddynt nifer fawr o rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau gwahanol iawn ac maent yn ffynhonnell incwm sylweddol. Mae'r moroedd hyn, a adnabyddir weithiau fel 'moroedd tiriogaethol' tua'r un faint, o ran arwynebedd, a moroedd tiriogaethol yr Almaen.

Map o foreoedd Cymru gan Lywodraeth Cymru

Mae arfordir Cymru'n 2,120 km o hyd. Mae arwynebedd moroedd tiriogaethol Cymru tua 32,000 km sgwâr, sy’n golygu bod ardal forol Cymru tipyn mwy na'i thir, sef 21,218 km sg. Cyfanswm tir a moroedd Cymru, felly yw 53,218 km sg.

Mae'r moroedd hyn yn bwysig oherwydd eu dylanwad economaidd ac amgylcheddol.[1]

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bwerau i ddatblygu cynllun morol (Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru; Welsh National Marine Plan) o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Oherwydd hyn gall Llywodraeth Cymru bellach warchod ardaloedd cadwraeth morol yn ogystal â helpu manteisio ar botensial economaidd y moroedd mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r Cynllun hwn i'w gael yma ar ffurf PDF.

Drwy ei chynllun morol, gall y Llywodraeth nodi pa ardaloedd o'r môr fydd yn cael:

1. eu diogelu ar gyfer cadwraeth natur,
2. eu diogelu ar gyfer y sector pysgota
3. eu defnyddio ar gyfer ynni adnewyddadwy morol.

Mae'r moroedd hyn yn cynnwys:

  • rhanbarth glannau Cymru (0-12 milltir fôr; inshore region neu territorial sea) a
  • rhanbarth y môr mawr (o 12 milltir fôr at y ffin ag Iwerddon; offshore region neu contiguous zone)

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

[golygu | golygu cod]

Cychwynodd y gwaith ar y cynllun morol yn 2011, gydag sawl ymgynghoriad a draft. Mae’r Cynllun yn edrych ar Foroedd Tiriogaethol Cymru dros gyfnod o 20 mlynedd.

Yn ôl Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, "mae'r cynllun hwn yn rhoi gweledigaeth hirdymor i'r Llywodraeth, am y tro cyntaf, i ddatblygu ein moroedd yn gynaliadwy."

Pwrpas y cynllun yn ôl Griffiths yw "rheoli'n moroedd yn gynaliadwy a helpu i sicrhau eu bod yn iach a chydnerth fel bod cenedlaethau heddiw ac yfory yn gallu elwa arnynt."[angen ffynhonnell]

Mae ardal y Cynllun yn rhannu ffin gyda Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon. Mae hefyd yn ffinio gyda dau ranbarth cynllunio morol yn Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr a De-orllewin Lloegr.

Mae'r Cynllun hwn yn ymdrin â swyddogaethau datganoledig i Gymru a'r rhai sydd wedi'u cadw gan Lundain (y Deyrnas Unedig).

Sectorau

[golygu | golygu cod]

Mae ystod eang o weithgareddau'n digwydd ym moroedd Cymru. Rhenir y cynllun i 11 sector:

1. Agregau -tywod a gro i adeiladu ayb
2. Dyframaeth - magu neu dyfu pysgod asgellog, pysgod cregyn ac algâu, yn cynnwys porthiant i’w cynnal). Mae’n cynnwys cynhyrchu anifeiliaid at ddibenion masnachol uniongyrchol neu ar gyfer ailstocio a gwella poblogaethau gwyllt (“ffermio cefnforol”).
3. Amddiffyn - mae lluoedd arfog Lloegr (y DU) yn gwneud defnydd helaeth o arfordiroedd a moroedd Cymru at nifer o ddibenion gwahanol sy’n ymwneud ag amddiffyn, yn cynnwys cynnal ymarferiadau hyfforddi milwrol; a rhedeg meysydd profi a gwerthuso a chyfleusterau meysydd tanio taflegrau a meysydd ar gyfer profi systemau awyrennau di-griw a cherbydau di-griw (droniau).
4. Carthu a Gwaredu - symud deunydd o un ardal o wely’r môr ac adleoli’r deunydd a gloddiwyd mewn man arall i’w waredu. Gwneir y rhan fwyaf o garthu a gwaredu morol ar gyfer mordwyo llongau a datblygu porthladdoedd.
5. Ynni: Carbon Isel - cynhyrchu ynni adnewyddadwy morol (o'r gwynt, y tonnau a'r llanw) a gweithgarwch cysylltiedig ee technolegau ynni tonnau a ffrwd lanw, ynni morlyn llanw ayb.
6. Ynni: Olew a Nwy - 'Gwneud y gorau o echdyniadau cynaliadwy o olew a nwy y DU er mwyn darparu cyflenwad ynni diogel, fforddiadwy a chydnerth i ddefnyddwyr masnachol a domestig tra'n bodloni nodau datgarboneiddio'r DU. Rhennir cyfrifoldebau am drwyddedu ynni, cydsynio a chaniatáu ynni yn ardal y Cynllun rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Olew a Nwy.'
7. Pysgodfeydd - y sector pysgota; caiff ei rannu'n offer symudol ac offer statig.
8. Porthladdoedd a Morgludo - mae'n cynnwys adeiladu, gweithredu a chynnal porthladdoedd, harbyrau a therfynfeydd a marinâu er mwyn cynnal y gweithgareddau masnachol ac ategol sy’n gysylltiedig â morgludo nwyddau a chludo teithwyr ar y môr, a gwaith sy’n gysylltiedig â diwydiannau ynni ar y môr (olew, nwy ac ynni adnewyddadwy).
9. Ceblau o dan y môr - gosod, cynnal a datgomisiynu ceblau telathrebu a throsglwyddo trydan (pŵer).
10. Trin a Gwaredu Dŵr Wyneb a Dŵr Gwastraff - rheoli dŵr ffo wyneb a dŵr gwastraff, gan gynnwys ei gasglu, ei gludo, ei drin a’i waredu. Mae hyn yn cynnwys carthffosydd, gwaith trin carthion, elifion diwydiannol a gorlifo carthffosiaeth cyfunol.
11. Twristiaeth a Hamdden - diogelu a hyrwyddo mynediad i’r arfordir a gwella ansawdd profiad yr ymwelydd o fewn cyrchfan cynaliadwy o’r radd flaenaf ar gyfer wristiaeth a hamdden morol.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ymchwil.senedd.cymru; adalwyd 6 Hydref 2024.