Mynyddoedd yr Atlas
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Lleoliad | Gogledd Affrica |
Gwlad | Algeria |
Uwch y môr | 4,165 metr |
Cyfesurynnau | 31.0619°N 7.9161°W |
Hyd | 2,550 cilometr |
Cyfnod daearegol | Cyn-Gambriaidd |
Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd-orllewin Affrica, sy'n ymestyn am tua 1,500 milltir (2,400 km) trwy Moroco ac Algeria i ogledd Tiwnisia yw Mynyddoedd yr Atlas (Berbereg: Idurar n leṭles, Arabeg: جبال الأطلس ). Jbel Toubkal (4167 m), yn ne-orllewin Moroco, yw'r copa uchaf. M'Goun (4071 m) yw'r ail uchaf. Gorwedd yr Atlas rhwng y Môr Canoldir (i'r gogledd) a Chefnfor Iwerydd (i'r gorllewin) ac anialwch y Sahara, gan eu gwahanu. Mae mwyafrif poblogaeth frodorol Mynyddoedd yr Atlas yn Ferberiaid, ym Moroco, a Kabyliaid, yn Algeria. Yn ôl mytholeg y Groegiaid, enwir y mynyddoedd ar ôl y Titan Atlas; mewn rhai o'r ieithoedd Berber mae adrar neu adras yn golygu "mynydd" ac felly mae'n debyg mai ffurf Roeg ar yr enwau hynny yw Atlas.
Ymrennir y mynyddoedd yn sawl cadwyn ac is-gadwyn, yn cynnwys (o'r gorlelwin i'r dwyrain) yr Atlas Uchel, yr Atlas Canol, a'r Anti-Atlas (neu Wrth-Atlas). Ger arfordir y gogledd ceir yr Atlas Tell, sy'n cynnwys mynyddoedd y Rif, ac Atlas y Sahara i'r de sy'n gorffen ym Mynyddoedd Aurès rhwng Algeria a Thiwnisia. Yn Nhiwnisia ei hun gellid ystyried y Kroumirie a'r Dorsal yn ymestyniadau olaf yr Atlas i'r dwyrain.
Israniadau
[golygu | golygu cod]Gellir rhannu'r gadwyn yn dri phrif ranbarth, o'r gorllewin i'r dwyrain:
- Atlas Uchel, Atlas Canol, a'r Anti-Atlas (Moroco).
- Atlas y Sahara (Algeria).
- Atlas Tell (Algeria, Tiwnisia).
Atlas Canol
[golygu | golygu cod]- Prif: Atlas Canol
Yr Atlas Canol yw'r rhan o Fynyddoedd yr Atlas sy'n gorwedd yn gyfangwbl ym Moroco. Dyma'r mwyag gorllewinol o dair cadwyn mynydd yn yr Atlas sy'n diffinio basn uchel sy'n ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i Algeria. I'r de o'r Atlas Canol ac yn wahanedig gan yr afonydd Moulouya ac Oum Er-Rbia, mae'r Atlas Uchel yn ymestyn am 700 km mewn cyfres o gopaon gyda deg ohonynt dros 4,000 medr. I'r gogledd o'r Atlas Canol gorwedd Afon Sebou a mynyddoedd y Rif, sy'n ymestyniad deheuol o'r Cordillera Baetig (sy'n cynnwys y Sierra Nevada) yn ne Sbaen.
Atlas Uchel
[golygu | golygu cod]- Prif: Atlas Uchel
Mae'r Atlas Uchel yng nghanolbarth Moroco yn codi yn y gorllewin ger arfordir Cefnfor Iwerydd ac yn ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i'r ffin rhwng Moroco ac Algeria. Yn y gorllewin a'r de-orllewin mae'r gadwyn yn disgyn yn sydyn gan ffurfio'r Anti-Atlas ger yr arfordir. I'r gogledd, i gyfeiriad Marrakech, mae'r disgyniad yn fwy graddol. Jbel Toubkal (4167 m) yw'r copa uchaf.
Ar gopaon Ouarzazate torrir trwy'r massif gan Dyffryn Draa, sy'n ymagor i'r de. Yma ceir golygfeydd trawiadol gyda chreigiau garw a ceunentau dwfn. Dyma un o ganolfannau y Berberiaid, sy'n byw mewn pentrefi bychain a dilyn bywyd amethyddol, e.e. yn Nyffryn Ourika.
Prif ganolfannau'r rhanbarth hwn yw Tahanaoute, Amizmiz, Asni, Tin Mal, Ijoukak, ac Oukaïmden.
Anti-Atlas
[golygu | golygu cod]- Prif: Anti-Atlas
Ymestynna'r Anti-Atlas (neu'r Gwrth-Atlas) o Gefnfor Iwerydd yn ne-orllewin Moroco i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ac ucheldiroedd Ouarzazate ac ymhellach i'r dwyrain wedyn i ddinas Tafilalt (tua 500 km i gyd). I'r de mae'n ffinio â'r Sahara. Pwynt mwyaf dwyreiniol yr Anti-Atlas yw mynyddoedd Djebel Sarhro a diffinnir ei ffin ddwyreiniol gan rannau o'r Atlas Uchel.
Atlas y Sahara
[golygu | golygu cod]- Prif: Atlas y Sahara
Atlas y Sahara yn Algeria yw rhan dwyreiniol Mynyddoedd yr Atlas. Er yn is na'r Atlas Uchel maent yn uwch na'r Atlas Tell i'r gogledd, yn agosach at arfordir y Môr Canoldir. Y copa uchaf yn y gadwyn yw Djebel Aissa (2236 m). Mae'r mynyddoedd yn dynodi ymyl ogleddol y Sahara. Ceir rhywfaint o law ar y mynyddoedd hyn ac maent yn fwy addas at amaeth na'r llwyfandir uchel i'r gogledd. Berberiaid yw'r mwyafrif o'r bobl sy'n byw yno (gweler Kabylie).
Atlas Tell
[golygu | golygu cod]- Prif: Atlas Tell
Mae cadwyn Atlas Tell yn ymestyn am fwy an 1,500 km, sy'n cael ei chyfrif yn is-gadwyn o Fynyddoedd yr Atlas, o ddwyrain Moroco trwy Algeria i'r ffin â Thiwnisia, gan redeg yn gyfochrog ac arfordir y Môr Canoldir. Gyda Atlas y Sahara i'r de, mae'n ffurfio'r mwyaf gogleddol o ddau neu ragor o gadwynnau cyfochrog sy'n dod yn fwy agos i'w gilydd i gyfeiriad y dwyrain, gan ymuno yn nwyrain Algeria. Yn y gorllewin mae'n cyffwrdd yr Atlas Canol ym Moroco. I'r de o'r mynyddoedd ceir llwyfandir uchel gyda llynnoedd yn y tymor gwlyb.
Mynyddoedd Aurès
[golygu | golygu cod]- Prif: Mynyddoedd Aurès
Mynyddoedd Aurès Algeria a rhan o ogledd-orlelwin Tiwnisia yw rhan fwyaf dwyreiniol yr Atlas. Gelwir y rhan o'r gadwyn sydd yn Nhiwnisia y Kroumirie ac mae Dorsal Tiwnisia yn ymestyniad hefyd.