Penry Williams
Penry Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1802 Merthyr Tudful |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1885, 1885 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arlunydd o Gymru oedd Penry Williams (cyn 2 Chwefror 1800 – 27 Gorffennaf 1885), a gofir am ei dirluniau o dde Cymru a Rhufain.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ganed Williams ym Merthyr Tudful, Morgannwg yn 1800 yn fab i'r saer cerrig William Williams.[1] Dechreuodd beintio yn ifanc. Mae ei beintiadau cynnar yn cynnwys Merthyr Riots (1816), sy'n darlunio Terfysgoedd Merthyr. Ei ysgolfeistr ym Merthyr oedd Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo), mab Iolo Morganwg. Mae'n bosibl mai Taliesin a ysbrydolodd Williams (ac eraill) i ddilyn gyrfa fel artist.[2]
Aeth i astudio yn ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain yn 1822, efallai trwy nawdd y meistr haearn William Crawshay. Yno bu'n fyfyriwr dan gyfarwyddyd Johann Heinrich Füssli (Henry Fuseli), yr artist mawr o'r Swistir.
Yn 1826, symudodd Williams i ymgartrefu yn Rhufain. Er iddo ddychwelyd i Gymru yn bur aml, arosodd yn Rhufain am weddill ei oes a bu farw yno yn 1885. Daeth yn gyfaill i arlunwr arall o Gymru, sef John Gibson. Cafodd 34 yn arddangosfa yn yr Academi Frenhinol rhwng 1822 a 1869, yn cynnwys portreadau o John Gibson a'r Arglwyddes Charlotte Guest, cyfieithydd y Mabinogion.[1]
Casgliadau
[golygu | golygu cod]Ceir casgliad o ddyfrliwiau cynnar Penry Williams yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur Arlein
- ↑ 2.0 2.1 "Casglu'r Tlysau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 2009-09-19.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Lluniau dyfrlliw cynnar o Dde Cymru gan Penry Williams[dolen farw], ar wefan Casglu'r Tlysau.