Pina Bausch
Pina Bausch | |
---|---|
Ganwyd | Philippine Bausch 27 Gorffennaf 1940 Solingen |
Bu farw | 30 Mehefin 2009 Wuppertal |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | coreograffydd, dawnsiwr bale, meistr mewn bale, academydd, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Café Müller |
Priod | Ronald Kay |
Plant | Rolf Salomon Bausch |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Ring of Honour of the city Wuppertal, Gwobr Goethe, Musikpreis der Stadt Duisburg, Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia, Praemium Imperiale, Chevalier de la Légion d'Honneur, Commandeur des Arts et des Lettres, Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, Uwch-swyddog Urdd Santiago de la Espada, Honorary doctor of the University of Bologna, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Pour le Mérite, Deutscher Tanzpreis, Gwobr Theatr Ewrop |
Gwefan | https://www.pinabausch.org/ |
Dawnswraig fodern, cyfarwyddwraig bale, coreograffydd, athrawes ddawns a pherfformwraig o'r Almaen oedd Philippina "Pina" Bausch (27 Gorffennaf 1940 – 30 Mehefin 2009). Gyda'i steil unigryw, ei dawn o symud, sain, a llwyfannu diddorol, yn ogystal â chydweithio gyda pherfformwyr yn ystod y broses datblygu (steil a elwir Tanztheater), fe ddaeth yn arweinydd dylanwadol ym maes y ddawns fodern o'r 1970au ymlaen. Fe greodd hi'r cwmni Tanztheater Wuppertal Pina Bausch (de) sy'n perfformio yn rhyngwladol.
Blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Bausch yn Solingen, y trydydd a'r ieuengaf o blant Awst ac Anita Bausch, a oedd yn berchen ar fwyty gydag ystafelloedd cysgu. Roedd y bwyty yn lle delfrydol iddi ddechrau perfformio - o oedran ifanc iawn. Roedd hi'n perfformio i'r gwesteion yn y gwesty, yna fe sylweddolodd ei rhieni fod ganddi botensial.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Pan yn 15 mlwydd oed, cafodd Pina ei derbyn i astudio yn Folkwangschule (Academi Folkwang). Roedd yr ysgol yn cael ei gyfarwyddo gan Kurt Jooss, un o arloeswyr math newydd o theatr ddawns o'r enw Tanztheater, oedd yn cysylltu dawns, gwaith dramatig neu theatr.
Ar ôl graddio yn 1959, gadawodd Bausch yr Almaen gydag ysgoloriaeth gan y German Academic Exchange Service er mwyn parhau gyda'i hastudiaethau yn Juilliard School yn Efrog Newydd yn 1960, ble roedd Antony Tudor, José Limón, Alfredo Corvino, a Paul Taylor yn dysgu yno. Roedd Bausch yn perfformio gyda Tudor yn y Metropolitan Opera Ballet Company, a gyda Paul Taylor yn y New American Ballet. Cafodd Taylor ei wahodd yn 1960 i berfformio darn newydd o waith o'r enw Tablet yn Spoleto, yr Eidal, fe aeth a Bausch gydag ef. Yn Efrog Newydd, fe berfformiodd Bausch gyda Chwmni Ddawns Paul Sanasardo a Donya Feuer ac fe gyd-weithiodd ar ddau ddarn gyda nhw yn 1961. Yn Efrog Newydd, fe ddatganodd Pina "Mae Efrog Newydd fel jwngl ond ar yr un pryd, mae'n rhoi'r ymdeimlad o ryddid. Yn y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi darganfod fy hunan."
Yn 1962, ymunodd Bausch a sioe newydd Jooss, Folkwang-Ballet (Ballet Folkwang) fel unawdydd a chynorthwyodd Jooss ar nifer o'i ddarnau. Yn 1968, fe aeth ati i goreograffi ei darn cyntaf Fragmente (Darnau), i gerddoriaeth Béla Bartók. Yn 1969, fe ddilynodd Jooss fel cyfarwyddwr artistig y cwmni.