Pragmatiaeth
Gwedd
Athroniaeth sy'n dal taw canlyniadau ymarferol yw meini prawf gwybodaeth, ystyr a gwerth yw pragmatiaeth[1] neu ymarferoliaeth.[2] Dadleua'r ffurf hon ar empiriaeth taw'r canlyniad sy'n pennu ystyr, a chadarnhâd sy'n pennu gwirionedd, ac felly moddion i weithredu yw syniadau yn y bôn.
Roedd yr ysgol feddwl hon yn dominyddu athroniaeth Americanaidd ar ddechrau'r 20g. Daeth yn ddylanwadol ym meysydd polisi a gwleidyddiaeth i flaenoriaethu gweithrediad a phrofiad yn hytrach nag athrawiaeth ac egwyddorion diamod.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ pragmatiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [pragmatism].
- ↑ (Saesneg) pragmatism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.