Ptolemi I Soter
Gwedd
Ptolemi I Soter | |
---|---|
Ganwyd | 360s CC Macedon |
Bu farw | 280s CC Alexandria |
Dinasyddiaeth | Macedon, Ptolemaic Kingdom |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, hanesydd, person milwrol |
Swydd | somatophylakes, Pharo, strategos |
Tad | Lagus |
Mam | Arsinoe of Macedon |
Priod | Artakama, Thaïs, Eurydice of Egypt, Berenice I o'r Aipht |
Plant | Ptolemy II Philadelphus, Arsinoe II, Ptolemy Ceraunus, Meleager, Lysandra, Ptolémaïs, Philotera, Argaeus of Egypt, Irene, Lagos |
Llinach | Brenhinllin y Ptolemïaid |
Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr a sylfaenydd brenhinllin y Ptolemiaid yn yr Hen Aifft oedd Ptolemi I Soter (Groeg: Πτολεμαῖος Σωτήρ, Ptolemaios Soter, "Ptolemi y Gwaredwr", 367 CC—283 CC).
Roedd Ptolemi yn un o gadfridogion mwyaf blaenllaw Alecsander, ac yn gyfaill iddo o'u bachgendod. Bu ganddo ran amlwg yn ymgyrchoedd Alecsander yn Affganistan ac India, a chofnodir iddo briodi tywysogers Bersaidd, Artakama, yn Susa.
Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, daeth Ptolemi yn satrap yr Aifft. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn un arall o gadfrodogion Alecsander, Perdiccas, pan ymosododd ef ar yr Aifft, ac yn 305/4 CC cyhoeddodd ei hun yn frenin. Yn 285 CC, gwnaeth ei fab, Ptolemi II Philadelphus, yn gyd-frenin.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Walter M. Ellis, Ptolemy of Egypt (Routledge, 1993)