Refferendwm annibyniaeth i Gyrdistan Irac, 2017
Gwedd
Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth i Gyrdistan Irac ar 25 Medi 2017. Yn ôl comisiwn etholiadol y Cyrdiaid, roedd 72% o bobl oedd yn gymwys wedi pleidleisio, a phleidleisiodd 92.73% ohonynt o blaid annibyniaeth Cyrdistan oddi ar Irac. Ni chydnabuwyd y refferendwm gan lywodraeth Irac.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cwrdiaid Irac yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, Golwg360 (27 Medi 2017). Adalwyd ar 27 Medi 2017.