Rhaglen deledu
Gwedd
Mae rhaglen deledu neu sioe deledu yn ddarn o'r deunydd a ddarlledir ar deledu er mwyn adlonni, difyrru neu hysbysu. Gall bod yn episod unigol neu, fel arfer, yn rhan o gyfres deledu. Mae nifer yr episodau mewn cyfres yn amrywio – ym Mhrydain mae cyfres gomedi fel arfer yn para chwe episod (un pob wythnos am chwe wythnos), tra bo gan operâu sebon cymaint o episodau'r wythnos am amser amhendant. Yn yr Unol Daleithiau, bu cyfresi drama a chomedi yn para am rhan fwyaf y flwyddyn, gyda dros ugain o episodau.