Rhodri Glyn Thomas
Rhodri Glyn Thomas AC | |
| |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 5 Mai 2016 | |
Rhagflaenydd | swydd newydd |
---|---|
Olynydd | Adam Price |
Cyfnod yn y swydd 11 Gorffennaf 2007 – 18 Gorffennaf 2008 | |
Rhagflaenydd | swydd newydd |
Olynydd | Alun Ffred Jones |
Geni | Wrecsam, Cymru | 11 Ebrill 1953
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan |
Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Rhodri Glyn Thomas (ganwyd 11 Ebrill 1953). Bu'n Aelod Cynulliad (AC) dros Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999 ond ni safodd fel ymgeisydd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Thomas yn Wrecsam, gweinidog o Langadog oedd tadcu Rhodri Glyn Thomas. Magwyd ei dad yn Llangadog a bu'n athro yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Aeth Rhodri i Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, ac yna i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam cyn gadael am Brifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1975 i astudio am radd yn y Gymraeg. Wedi graddio ym 1978, astudiodd am radd BD mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ym 1991 astudiodd Rhodri am radd MTh ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, yn darllen Diwinyddiaeth Americanaidd.
Ym 1992 ymladdodd hen sedd seneddol Caerfyrddin yn yr Etholiad Cyffredinol dros y Blaid. Yn Etholiad Cyffredinol 1997 safodd yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ym 1999 ymladdodd yr un etholaeth yn etholiadau'r Cynulliad gan ennill o 6,980 o bleidleisiau a chynyrchu gogwydd enfawr o 21% yn erbyn y Blaid Lafur. Cadwodd y sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2003 a 2007.
Ei brif ddiddordebau gwleidyddol yw Materion Gwledig; Materion Cymdeithasol; Busnes ac Economeg; Trafnidiaeth. Fe yw Gweinidog yr Wrthblaid ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Ddirprwy Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad ac yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a'r Pwyllgor Materion Ewropeaidd.
Daeth yn Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru yn 2007 ond bu rhaid iddo ymddiswyddo fel Gweinidog yn dilyn cyfres o gamgymeriadau honedig. Dywedir iddo gerdded i mewn i dafarn gerllaw adeilad y Cynulliad gyda sigâr yn ei law pan oedd ysmygu mewn adeiladau yn anghyfreithiol. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad gan Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Gweinidog dros Dreftadaeth 2007 – 2008 |
Olynydd: Alun Ffred Jones |
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Aelodau Llywodraeth Cymru
- Genedigaethau 1953
- Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Pobl o Wrecsam
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Morgan Llwyd