Richard Bulkeley Philipps Philipps
Richard Bulkeley Philipps Philipps | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1801 |
Bu farw | 3 Ionawr 1857 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Roedd Richard Bulkeley Philipps Philipps (7 Mehefin 1801 – 3 Ionawr 1857), ganwyd Richard Bulkeley Philipps Grant, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Bwrdeistref Hwlffordd rhwng 1826–35 a 1837–47 ac yn Arglwydd 1847–57.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Roedd Richard Bulkeley Philipps Grant yn fab i John Grant, Begeli a Mary Philippa Artemisia Philipps; yr oedd ei mam o ach deulu Philipps Castell Picton ac fe etifeddodd Richard yr ystâd ar farwolaeth ei gefnder Richard Philipps, Barwn cyntaf Aberdaugleddau ym 1823 gan newid ei gyfenw i Philipps.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster.
Ym 1824 priododd ag Eliza merch John Gordon o Hanwell, Middlesex, bu hi farw ym 1852. Priododd am yr ail dro ym 1854 gyda'r Ledi Anne Jane Howard, merch William 4ydd Iarll Wicklow;[2] ni fu blant o'r naill briodas na'r llall.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Roedd William Henry Scourfield wedi bod yn cynrychioli Hwlffordd yn y Senedd ers 1818 dan nawdd y ddiweddar Arglwydd Aberdaugleddau fe ildiodd ef ei le yn etholiad cyffredinol 1826 i wneud lle i Philipps cael sefyll. Etholwyd Philipps yn ddiwrthwynebiad gan dal ei afael ar y sedd hyd 1835. Ym 1835 fe benderfynodd Jonathan Peel o Cotts, car i Robert Peel herio am enwebiad Rhyddfrydol Hwlffordd ar sail diffyg sylw Philipps i'w dyletswyddau seneddol a'i gyfnodau hir o absenoldeb o'i etholaeth trwy grwydro Ewrop. Gan ofni nad oedd modd iddo dal gafael ar y sedd fe dynnodd allan o'r ras gan roi ei gefnogaeth i'r ymgyrch llwyddiannus i ailethol y Ceidwadwr Scourfield. Yn etholiad 1837 ildiodd Scourfield y sedd eto er budd Philipps, cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd ei ddyrchafiad i Dŷ’r Arglwyddi ym 1847.
Fe wasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Hwlffordd o 1824 hyd ei farwolaeth a bu'n Maer Hwlffordd ym 1829-30 a 1831-2. Cafodd ei urddo yn farwnig ym 1828 a'i ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn 1af Aberdaugleddau (ail greadigaeth) ym 1847.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yng Nghastell Picton ym 1857 yn 55 mlwydd oed, rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell deuluol yng nghôr Eglwys St Mair Hwlffordd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "PHILIPPS, Richard Bulkeley Philipps Grant (1801-1857), of Picton Castle, Pemb.", History of Parliament; adalwyd 18 Mai 2015
- ↑ "MARRIAGE OF THE RIGHT Hon. LORD MILFORD TO THE LADY ANNE JANE HOWARD", Pembrokeshire Herald and General Advertiser, 16 Mehefin 1854; adalwyd 18 Mai 2015
- ↑ "THE FUNERAL OF LORD MILFORD", Pembrokeshire Herald and General Advertiser, 16 Ionawr 1857; adalwyd 18 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Henry Scourfield |
Aelod Seneddol Hwlffordd 1826 – 1835 |
Olynydd: William Henry Scourfield |
Rhagflaenydd: William Henry Scourfield |
Aelod Seneddol Hwlffordd 1837 – 1847 |
Olynydd: John Evans |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Syr Richard Philipps, Barwn 1af Aberdaugleddau |
Arglwydd Raglaw Hwlffordd 1824 - 1857 |
Olynydd: John Henry Scourfield |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: neb |
Barwn Aberdaugleddau (ail greu) 1847 – 1857 |
Olynydd: neb |