Richard Cyril Hughes
Gwedd
Richard Cyril Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 1932 |
Bu farw | 1 Ebrill 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, nofelydd |
Plant | Huw Garmon |
Addysgwr a nofelydd hanes Cymraeg oedd Richard Cyril Hughes (1932 – 1 Ebrill 2022),[1] yn ysgrifennu fel R. Cyril Hughes. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gyfres o dair nofel hanesyddol am fywyd Catrin o Ferain mewn cyfres o nofelau Dinas Ddihenydd. Enillodd y drydedd o'r rhain, Castell Cyfaddawd, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984. Maes Bosworth oedd ei lyfr olaf yn dirwyn hanes dychmygol mab a tad o Benmynydd Sir Fôn i faes y gad dros un o blant y pentref a orchfygu i fod y cyntaf a'r mwyaf praff o'r Tuduriaid, sef Harri Tudur.
Mae Rhiryd Wyn, Owain Rhys, Richard Siôn a'r actor Huw Garmon yn feibion iddo.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Catrin o Ferain (1975)
- Dinas Ddihenydd (1976)
- Castell Cyfaddawd (1984)
- Maes Bosworth (2005)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Funeral Notices; adalwyd 28 Ebrill 2022