Saunders Lewis
Saunders Lewis | |
---|---|
Ganwyd | John Saunders Lewis 15 Hydref 1893 Wallasey |
Bu farw | 1 Medi 1985 Caerdydd |
Man preswyl | Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, llenor, bardd, beirniad llenyddol, dramodydd, academydd |
Cysylltir gyda | D. J. Williams, Lewis Valentine |
Adnabyddus am | Siwan, Blodeuwedd, Brad, Buchedd Garmon, Gymerwch Chi Sigaret? |
Arddull | theatr, barddoniaeth |
Priod | Margaret Gilcriest |
Plant | Mair Saunders Lewis |
Perthnasau | Siwan Jones |
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 1893 – 1 Medi 1985). Ar 5 Awst 1925 roedd yn un o brif sylfaenwyr Plaid Cymru. Ar 19 Ionawr 1937 dedfrydwyd ef i 9 mis o garchar am ei ran yn llosgi ysgol fomio yn Llŷn. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Saunders i deulu o Gymry oedd yn byw yn Wallasey, ger Lerpwl. Roedd yn ail o dri mab i'r gweinidog Methodist Calfinaidd, y Parch. Lodwig Lewis (1859–1933), oedd yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam Mary Margaret (née Thomas, 1862–1900) yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fôn.
Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref Wallasey. Roedd Saunders yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl[1] pan gychwynnodd Y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofrestrodd fel gwirfoddolwr gyda Chatrawd y Brenin, Lerpwl ym Medi 1914 ac yn Ebrill 1915 ceisiodd am gomisiwn gyda Chyffinwyr De Cymru ac fe'i ddyrchafwyd i Is-Gapten yn Chwefror 1916. Gwasanaethodd yn Ffrainc lle fe'i anafwyd.[2] Ar ôl gadael y fyddin, dychwelodd i'r brifysgol i orffen ei radd yn Saesneg.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1922, fe'i apwyntiwyd yn ddarlithiwr yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cynhyrchodd rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol o feirniadaeth lenyddol: A School of Welsh Augustans (1924), Williams Pantycelyn (1927), a Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1932).[4]
Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, sef darlith Radio BBC Cymru; y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Margaret Lewis (née Gilcriest) (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland. Cafwyd iddynt un plentyn, Mair Gras Saunders (1926-2011).[2]
Yn fab i weinidog Methodistaidd, ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret.[1] Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.
Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985.[5]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Ei ddramau mwyaf yw Blodeuwedd a Siwan, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant. Yn ei nofelau Monica a Merch Gwern Hywel, yn ogystal ag yn Siwan, mae cytundeb priodasol yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles cymdeithas. Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, a gwelodd fod dylanwad Lloegr yn rhwystr i Gymru ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W.B. Yeats.
Gwobrau a theitlau
[golygu | golygu cod]Yn 2005 cafodd Saunders Lewis ei enwi fel y degfed Cymro pwysicaf erioed mewn pôl piniwn a wnaed gan y BBC.[6]
Ar Fedi 22, 2016 cafodd plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Cyfrol o'i farddoniaeth ydy Siwan a Cherddi Eraill, er fod y gerdd Siwan hefyd yn cael ei chyfri fel drama fydryddol.
Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol Cerddi Saunders Lewis (gol. R. Geraint Gruffydd).
Cyfieithiadau
[golygu | golygu cod]- Doctor ar ei Waethaf (Cyfieithiad o Le Médecin malgre lui gan Molière) Cyfres y Werin 13, (1924)
- Wrth Aros Godot (Cyfieithiad o En Attendant Godot gan Samuel Beckett), Gwasg Prifysgol Cymru (1970)
Nofelau
[golygu | golygu cod]Dramâu
[golygu | golygu cod]- The Eve of St. John (1921)
- Gwaed yr Uchelwyr (1922)
- Buchedd Garmon (1937)
- Amlyn ac Amig (1940)
- Blodeuwedd (1948)
- Eisteddfod Bodran (1952)
- Gan Bwyll (1952)
- Siwan a Cherddi Eraill (1956)
- Gymerwch Chi Sigaret? (1956)
- Brad (1958)
- Esther (1960)
- Serch yw'r Doctor (1960)
- Yn y Trên (cyhoeddwyd yn y cylchgrawn Barn, 1965)
- Cymru Fydd (1967)
- Problemau Prifysgol (1968)
- Branwen (1975)
- Dwy Briodas Ann (1975)
- Cell y Grog (yn y cylchgrawn Taliesin, 1975)
- 1938 (1977)
- Excelsior (1980)
Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, dan olygyddiaeth Ioan Williams.
Beirniadaeth Lenyddol
[golygu | golygu cod]- A School of Welsh Augustans (1924)
- Ysgrifau Dydd Mercher (1945)
- Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1931)
- Meistri'r Canrifoedd (gol. R. Geraint Gruffydd; casgliad)
- Meistri a'u Crefft (gol. Gwynn ap Gwilym; casgliad)
Ysgrifau Gwleidyddol
[golygu | golygu cod]- Canlyn Arthur
- Ati, Wŷr Ifainc
- Tynged yr Iaith
Astudiaethau a llyfrau eraill
[golygu | golygu cod]- Dafydd Jenkins, Tân yn Llŷn (1937) – hanes Penyberth
- Alun R. Jones a Gwyn Thomas (gol.), Presenting Saunders Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)
- Mair Saunders, Bro a Bywyd: Saunders Lewis 1893-1985 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
- Bruce Griffiths, Writers of Wales: Saunders Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)
- Dafydd Ifans (gol.), Annwyl Kate, Annwyl Saunders (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1992) – llythyraeth Saunders â Kate Roberts
- T. Robin Chapman, Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (Gwasg Gomer, 2006)
- Emyr Hywel (gol.), Annwyl D.J. - Llythyrau D.J., Saunders, a Kate (Y Lolfa, 2007) – gohebiaeth D. J. Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts
- Rhianedd Jewell Her a Hawl Cyfieithu Dramâu - Saunders Lewis a Samuel Beckett a Molière (Gwasg Prifysgol Cymru, 2017)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 [1] Archifwyd 2012-05-23 yn y Peiriant Wayback Archifau Cymru; adalwyd 03/11/2012
- ↑ 2.0 2.1 LEWIS, JOHN SAUNDERS (1893-1985), gwleidydd, beirniad a dramodydd. Bywgraffiadur (16 Medi 2014). Adalwyd ar 13 Mawrth 2019.
- ↑ "Saunders Lewis". BBC. 2011. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2011.
- ↑ Kendall, Tim (22 Chwefror 2007). The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry. OUP Oxford. t. 342. ISBN 978-0-19-928266-1.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/4333779.stm
- ↑ Bevan is ultimate Welsh hero adalwyd 12-04-07
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- [2] Plac glas i gofio Saunders Lewis - cyfweliad gyda'r Athro Prys Morgan (Golwg360)
- [3] "Camgymeriad" cysylltu Saunders ag Abertawe am resymau negyddol - cyfweliad gyda Robert Rhys (Golwg360)
- Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) > ar wefan Gwales
Gellir gwrando ar ddarlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, yma: http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.
|
- Saunders Lewis
- Genedigaethau 1893
- Marwolaethau 1985
- Arweinwyr Plaid Cymru
- Beirdd Cymraeg o Gymru
- Beirniaid diwylliannol o Gymru
- Beirniaid llenyddol Cymraeg o Gymru
- Beirniaid llenyddol Saesneg o Gymru
- Cenedlaetholwyr Cymreig
- Dramodwyr Cymraeg o Gymru
- Dramodwyr Saesneg o Gymru
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Llenorion yr 20fed ganrif o Gymru
- Nofelwyr Cymraeg o Gymru
- Pobl o Lerpwl
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Cymraeg o Gymru
- Cymry Lerpwl