Simon de Montfort
Simon de Montfort | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1208 Montfort-l'Amaury |
Bu farw | 4 Awst 1265 o lladdwyd mewn brwydr Evesham |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arglwydd Uchel Ddistain Lloegr |
Tad | Simon de Montfort |
Mam | Alix de Montmorency |
Priod | Elinor, iarlles Caerlŷr |
Plant | Elinor de Montfort, Henry de Montfort, Guy de Montfort, Amaury de Montfort, Simon VI de Montfort, Peter de Montfort, Richard de Montfort |
Llinach | House of Montfort |
Ffrancwr oedd Simon de Montfort, 6fed Iarll Caerlŷr, (1208 – 4 Awst 1265). Ef oedd mab ifanca Simon de Montfort, 5ed Iarll Caerlŷr ac yn un o'r bobl allweddol yn y gwrthwynebiad barwnol i Harri III, brenin Lloegr. Priododd ag Elin, chwaer Harri III.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd ei fam yn etifeddes i Iarllaeth Caerlŷr ac ystad fawr yn Lloegr.
Roedd yn filwr caled a diwyro ac yn weinyddwr medrus. Daeth i wrthdaro â'r brenin oherwydd i'r brenin fethu ymateb i'r anfodlonrwydd cynyddol yn y wlad oherwydd nifer o bethau gan gynnwys newyn. Fe enillodd frwydr bwysig yn erbyn y brenin yn 1264 ond wedyn fe wnaeth Edward I, Brenin Lloegr ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Evesham, yn 1265. Yn gynharach yn y flwyddyn honno arwyddodd Gytundeb Pipton i selio'r cynghrair rhyngddo â Llywelyn ap Gruffudd.
Daeth Elinor de Montfort, merch Simon ac Elin, yn wraig i Llywelyn ein Llyw Olaf. Fe'i priodwyd yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1278. Bu Elin farw yn 1281 gan adael un ferch sef Gwenllian, nad oedd ond baban. Ar ôl i'w thad gael ei ladd rhoddodd ei chefnder Edward I, brenin Lloegr, Gwenllian yn Lleiandy Sempringham, Swydd Lincoln. Bu farw yn 1337 yn 56 blwydd oed.