Stegosaurus
Stegosaurus Amrediad amseryddol: Jwrasig Hwyr, 155–150 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Ysgerbwd S. stenops, Amgueddfa Natural History Museum, Llundain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Urdd: | †Ornithischia |
Is-urdd: | †Stegosauria |
Teulu: | †Stegosauridae |
Genws: | †Stegosaurus |
Teiprywogaeth | |
†Stegosaurus stenops Marsh, 1887 | |
Rhywogaethau eraill | |
| |
Cyfystyron | |
|
Math o ddinosor yw'r Stegosaurus, sy'n aelod o genws thyreophora; difodwyd y rhywogaeth tua 150 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Mae ffosiliau'r genws hwn yn dyddio i'r cyfnod Jwrasig Hwyr, lle cânt eu canfod yn rhwng yr haenau Kimmeridgian a'r Tithonian, rhwng 155 a 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn nwyrain Unol Daleithiau America a Phortiwgal. O'r rhywogaethau a ddosbarthwyd yn yr haen ddaearegol a elwir yn 'Ffurfiad Morrison', yng ngorllewin UDA, dim ond tair rhywogaeth sy'n cael eu cydnabod fel arfer: S. stenops, S. ungulatus a S. sulcatus. Mae olion dros 80 o anifeiliaid unigol o'r genws hwn wedi'u canfod.[1]
Byddai'r Stegosaurus wedi byw ochr yn ochr â deinosoriaid megis Apatosaurus, Diplodocus, Brachiosaurus, Allosaurus, a'r Ceratosaurus; gallai'r ddau olaf fod wedi bod yn ysglyfaethwyr ohono.
Roedd y Stegosaurus yn anifail enfawr, ar bedair coes, ac yn drwm iawn.
Oherwydd fod ganddo blatiau bras, unionsyth ar ei gefn a chynffon pigog, dyma un o'r mathau mwyaf adnabyddus o ddeinosoriaid. Mae swyddogaeth y platiau a'r pigauau (neu'r 'ysbigau') wedi bod yn destun llawer o ddyfalu ymhlith naturiaethwyr. Heddiw, cytunir yn gyffredinol bod y cynffonau sydd wedi eu sbotio'n fwyaf tebygol o gael eu defnyddio ar gyfer amddiffyn rhag ysglyfaethwyr, er y byddai eu platiau wedi'u defnyddio'n bennaf i'w harddangos, ac yn ail ar gyfer oeri a chynhesu'r corff.
Roedd gan Stegosaurus gymhareb màs o ymennydd i gorff cymharol isel. Roedd ganddo wddf byr a phen bach, sy'n golygu ei fod yn fwy tebygol o fwyta planhigion a llwyni isel. Y Stegosaurus ungulatus yw'r rhywogaeth mwyaf poblogaidd o'r holl stegosauriaid.[2]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair 'stegosaurus' o'r ddau air Groeg: stegos (στέγος) sy'n golygu 'to' a sauros (σαῦρος) sy'n golygu 'madfall' (Groeg: Στεγόσαυρος). Mae'r ddau air yn cyfeirio at y ffaith fod y Stegosaurus wedi'i orchuddio gan blatiau, yn debyg i do o lechi.[3]
Canfod ac enwi
[golygu | golygu cod]Canfyddwyr olion y Stegosaurus cyntaf gan Othniel Charles Marsh. Oherwydd mai tameidiau o esgyrn a ganfyddwyd - a hynny bob yn dipyn, mewn gwahanol lefydd - ni roddwyd y jig-so at ei gilydd i greu anifail cyflawn am rai blynyddoedd.
Roedd y sgerbydau cyntaf a oedd yn hysbys yn darniog ac roedd yr esgyrn yn wasgaredig, a byddai llawer o flynyddoedd cyn i wir ymddangosiad yr anifeiliaid hyn, gan gynnwys eu trefniadaeth a threfniant plât, ddeall yn dda.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Gallai'r oedolyn dyfu i hyd at 9 m (29.5 tr) o ran hyd[2] a 5.3–7 metric ton (5.8–7.7 short ton) o ran pwysau,[4][5] Roedd yn fychan o'i gymharu gyda rhai cyfoeswyr e.e. y sauropodau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Turner, C.E. and Peterson, F., (1999). "Biostratigraphy of dinosaurs in the Upper Jurassic Morrison Formation of the Western Interior, U.S.A." Tt. 77–114 yn Gillette, D.D. (gol.), Vertebrate Paleontology in Utah. Utah Geological Survey Miscellaneous Publication 99-1.
- ↑ 2.0 2.1 Holtz, Thomas R. Jr. (2012) Dinosaurs: The Most Complete, Up-to-Date Encyclopedia for Dinosaur Lovers of All Ages, Winter 2011 Appendix.
- ↑ "stegosaurus". Online Etymology Dictionary. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Foster, J.R. (2003). Paleoecological analysis of the vertebrate fauna of the Morrison Formation (Upper Jurassic), Rocky Mountain region, U.S.A. New Mexico Museum of Natural History and Science Bulletin, 23. Albuquerque, New Mexico: New Mexico Museum of Natural History and Science.
- ↑ Benson, RBJ; Campione, NE; Carrano, MT; Mannion, PD; Sullivan, C et al.; and others; Evans, David C. (2014). "Rates of Dinosaur Body Mass Evolution Indicate 170 Million Years of Sustained Ecological Innovation on the Avian Stem Lineage". PLoS Biol 12 (5): e1001853. doi:10.1371/journal.pbio.1001853. PMC 4011683. PMID 24802911. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4011683.