Tŷ Opera Sydney
Math | tŷ opera, tirnod, atyniad twristaidd, historical cultural heritage site |
---|---|
Agoriad swyddogol | 20 Hydref 1973 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Sydney, Dinas Sydney |
Sir | Dinas Sydney |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 3.82965264 ha, 5.8 ha, 438.1 ha |
Uwch y môr | 15 metr |
Gerllaw | Port Jackson |
Cyfesurynnau | 33.85706°S 151.2149°E |
Rheolir gan | Sydney Opera House Trust |
Arddull pensaernïol | expressionist architecture |
Perchnogaeth | Government of New South Wales |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, listed on the Australian National Heritage List, Heritage Act — State Heritage Register, Local Environmental Plan, National Trust of Australia register, Royal Australian Institute of Architects register, listed on the Register of the National Estate |
Manylion | |
Lleolir Tŷ Opera Sydney yn Sydney, Awstralia. Gwnaed yr adeilad yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar yr 28ain o Fehefin, 2007. Adeiladwyd yr adeilad yn seiliedig ar gynllun buddugol y pensaer Danaidd Jørn Utzon ac mae bellach yn un o adeiladau mwyaf unigryw yr 20g ac yn un o ganolfannau y celfyddau creadigol enwocaf y byd. Roedd yn un o'r ugain adeilad a gyrhaeddodd rownd derfynol prosiect Saith Rhyfeddod Newydd y Byd yn 2007.
Mae Tŷ Opera Sydney wedi ei leoli ar Bennelong Point yn Harbwr Sydney, yn agos at Bont Harbwr Sydney. Mae'r adeilad a'r ardal o'i amgylch yn un o eiconau mwyaf adnabyddus Awstralia.
Yn ogystal â chwmnïau theatr teithiol, ballet a chynhyrchiadau cerddorol, mae'r Tŷ Opera yn gartref i Opera Awstralia, Cwmni Theatr Sydney a Cherddorfa Symffoni Sydney. Caiff y ganolfan ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth Tŷ Opera Sydney.