Neidio i'r cynnwys

Talaith Málaga

Oddi ar Wicipedia
Talaith Málaga
Mathtalaith o fewn Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasMálaga Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,695,651 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethElías Bendodo Benasayag Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd7,308 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Córdoba, Talaith Granada, Talaith Cádiz, Talaith Sevilla Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.72°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod post29 Edit this on Wikidata
ES-MA Edit this on Wikidata
Corff gweithredolProvincial Deputation of Málaga Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Q42409076 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethElías Bendodo Benasayag Edit this on Wikidata
Map

Talaith yn ne Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucía yw Talaith Málaga. Mae'n ffinio â Môr y Canoldir i'r de a thaleithiau Cádiz i'r gorllewin, Sevilla i'r gogledd-orllewin, Córdoba i'r gogledd, a Granada i'r dwyrain. Málaga yw ei phrifddinas.

Talaith Málaga yn Sbaen

Mae ganddi arwynebedd o 7,308 km². Mae'n cynnwys 102 o fwrdeistrefi.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y dalaith boblogaeth o 1,696,955.[1]

Heblaw am y brifddinas, ei phrif ddinasoedd yw Marbella, Mijas, Fuengirola, Véliz-Málaga, Torremolinos, Estepona, a Benalmádena, sydd i gyd wedi'u lleoli ar yr arfordir. Mae trefi Antequera a Ronda wedi'u lleoli yn y mewndir.

Ei phrif ddiwydiant yw ei gyrchfannau twristiaeth, yn enwedig y rhai ar y traethau ar hyd y Costa del Sol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. City Population; adalwyd 25 Awst 2023