Tate Modern
Math | oriel gelf, corff cyhoeddus anadrannol, amgueddfa genedlaethol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Henry Tate |
Agoriad swyddogol | 11 Mai 2000 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Orielau Tate |
Lleoliad | Bankside |
Sir | Southwark |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 35,000 m² |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.5078°N 0.0994°W |
Cod post | SE1 9TG |
Sefydlwydwyd gan | Henry Tate |
Oriel genedlaethol ar gyfer celf fodern yw Tate Modern. Fe'i leolir yn Bankside, ar lannau afon Tafwys, yn Llundain, Lloegr.
Adeiladwyd yr oriel oddi mewn hen orsaf drydanol Bankside, a'i godwyd i gynlluniau gan Syr Giles Gilbert Scott rhwng 1947 a 1963 ac a gaeodd ym 1981. Agorodd i'r cyhoedd fel oriel yn 2000 wedi'r adnewyddiad gan y penseiri Herzog a de Meuron. Mae'n rhan o Oriel y Tate, sefydliad sydd hefyd yn gweinyddu tair oriel gelf arall yn Lloegr.
Yng nghasgliad Tate Modern ceir gweithiau celf rhyngwladol yn dyddio o 1900 hyd y presennol. Cynrychiolir symudiadau celf yn cynnwys Argraffiadaeth, Ciwbiaeth, Fauvisme, Dyfodoliaeth, Mynegiadaeth, Dada, swrealaeth, celf bop a chelf gysyniadol. Yn wahanol i'r arfer, ni ymddangosir y casgliadau yn gronolegol ond yn hytrach yn ôl eu thema.
Gwahoddir artist i arddangos gwaith yn yr neuadd wag a ddaliai'r tyrbin ynghynt, yn flynyddol ers 2000. Fel rheol y maent yn weithiau enfawr sydd yn denu llawer o sylw gan y wasg ac ymwelwyr. Bwriedir ehangu'r oriel mewn rhannau o'r adeilad a barhaodd fel gorsaf drydanol hyd yn ddiweddar; disgwylir agor y rhannau yma yn 2012.