Neidio i'r cynnwys

Tour de France 2003

Oddi ar Wicipedia
Tour de France 2003
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Gorffennaf 2003 Edit this on Wikidata
Daeth i ben27 Gorffennaf 2003 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2002 Tour de France Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2004 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2003 Tour de France, prologue, 2003 Tour de France, Stage 1, 2003 Tour de France, Stage 2, 2003 Tour de France, Stage 3, 2003 Tour de France, Stage 4, 2003 Tour de France, Stage 5, 2003 Tour de France, Stage 6, 2003 Tour de France, Stage 7, 2003 Tour de France, Stage 8, 2003 Tour de France, Stage 9, 2003 Tour de France, Stage 10, 2003 Tour de France, Stage 11, 2003 Tour de France, Stage 12, 2003 Tour de France, Stage 13, 2003 Tour de France, Stage 14, 2003 Tour de France, Stage 15, 2003 Tour de France, Stage 16, 2003 Tour de France, Stage 17, 2003 Tour de France, Stage 18, 2003 Tour de France, Stage 19, 2003 Tour de France, Stage 20 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.com/HISTO/TDF/2003/us/annee.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2003

Tour de France 2003 oedd 90fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 5 Gorffennaf 2003 gyda chymal prologue ym Mharis, a theithio'n glocwedd o amgylch Ffrainc cyn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 27 Gorffennaf. Roedd y llwybr yn 3,427.5 km (2129.75 mi) o hyd.[1] Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.

Yn wahanol i'r arfer, ni ymwelodd y ras â unrhyw wledydd eraill, gan ail-greu rhan helaeth o lwybr cyntaf y ras a gystadlwyd canrif yn ddiweddarach ym 1903. Roedd gwobr arbennig, y Centenaire Classement ar gyfer y reidiwr gorau dros y chwe cymal â'u gorffen yn cyfateb i Tour 1903 - Lyon, Marseille, Toulouse, Bordeaux, Nantes a Pharis. Enillwyd gan Stuart O'Grady, gyda Thor Hushovd yn ail. Derbyniodd Tour de France 2003 hefyd Wobr Tywysog Asturias am Chwaraeon.

Y ffefryn o'r 198 reidiwr a oed yn cystadlu, oedd Lance Armstrong, a oedd yn anelu am ei bumed fuddugoliaeth a fuasai'n gyfartal gyda'r record ar gyfer y ras. Credwyd mai ei brif wrthwynebwyr yn y ras fyddai Iban Mayo, Aitor González, Tyler Hamilton, Ivan Basso, Gilberto Simoni, Jan Ullrich, a Joseba Beloki. Er iddo fynd ymlaen i ennill y ras, yn ystadegol, ac o'i gyfaddefiad ei hun, dyma oedd perfformiad gwanaf Armstrong dros y saith mlynedd yr enillodd y ras.[2]

Trawsolwg

[golygu | golygu cod]
Laiseka, Basso, Hamilton, Armstrong, Beloki a Zubeldia yn esgynnu Alpe d'Huez

Cystadlwyd y Tour yn fwy brwydrol na'r blynyddoedd cynt, ond Armstrong oedd yn fuddugol unwaith eto. Bu Tyler Hamilton a Levi Leipheimer mewn damwain yn duan yn y Tour, gan arwain at Leipheimer i dynnu allan o'r ras, parhaodd Hamilton a gorffennodd yn bedwerydd ond yn reidio gyda pont ei ysgwydd wedi torri.

Yn yr Alpau, ni allai Gilberto Simoni na Stefano Garzelli, a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn y Giro d'Italia yn gynharach yr un flwyddyn, gadw fyny gyda Lance Armstrong a'r ffefrynnau eraill. Roedd yr un peth yn wir am Santiago Botero a orffennodd yn benwerydd y flwyddyn gynt. Llwyddodd Joseba Beloki i gadw fyny, ac roedd yn yr ail safle'n gyffredinol (40 eiliad tu ôl i Armstrong) pan gafodd ddamwain wrth fynd lawr allt cyflym. Achoswyd y ddamwain gan fod ei frêc wedi cloi fyny, oherwydd fod y tar ar y ffordd yn toddi yn y gwres felly roedd diffyg ffrithiant gyda'r ffordd a daeth ei deiar oddiar ymyl yr olwyn.[3] Torrodd Beloki asgwrn dde ei forddwyd, ei benelin a'i arddwrn, a bu'n raid iddo adael y Tour.[4] Cymerodd Armstrong dargyfeiriad drwy gae ger y ffordd er mwyn osgoi taro Beloki ar y ffordd. Roedd Armstrong yn dal gafael ar y crys melyn, ond enillodd Jan Ullrich y treial amser cyntaf o 1 munud a 36 eiliad. Roedd ef ac Alexander Vinokourov o fewn cyrraedd i Armstrong ar y brig.

Mi lwyddodd Armstrong i amddiffyn ei hun yn erbyn yr ymosodiadau, gan gipio ei bumed fuddugoliaeth Tour de France yn ganlynol, ac felly dod yn gyfartal gyda record Jacques Anquetil, Eddy Merckx, Bernard Hinault a Miguel Indurain am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau. Cyn Armstrong, dim ond Indurain oedd wedi ennill pump yn ganlynol. Cyn 2003, doedd Lance Armstrong erisoed wedi ennill y Tour o lai na chwech munud.

Cymalau

[golygu | golygu cod]
Cymal Dyddiad Dechrau – Gorffen Math Pellter Enillydd
P 5 Gorffennaf Paris Treial amser unigol 6.5 km Baner Awstralia Bradley McGee
1 6 Gorffennaf Saint-DenisMeaux Cymal gwastad 168.0 km Baner Yr Eidal Alessandro Petacchi
2 7 Gorffennaf La Ferté-sous-JouarreSedan Cymal gwastad 204.5 km Baner Awstralia Baden Cooke
3 8 Gorffennaf Charleville-MézièresSaint-Dizier Cymal gwastad 167.5 km Baner Yr Eidal Alessandro Petacchi
4 9 Gorffennaf JoinvilleSaint-Dizier Treial amser tîm 69.0 km Baner UDA US Postal
5 10 Gorffennaf TroyesNevers Cymal gwastad 196.5 km Baner Yr Eidal Alessandro Petacchi
6 11 Gorffennaf NeversLyon Cymal gwastad 230.0 km Baner Yr Eidal Alessandro Petacchi
7 12 Gorffennaf LyonMorzine Cymal mynyddig 230.5 km Baner Ffrainc Richard Virenque
8 13 Gorffennaf SallanchesAlpe d'Huez Cymal mynyddig 219.0 km Baner Sbaen Iban Mayo
9 14 Gorffennaf Le Bourg-d'OisansGap Cymal mynyddig 184.5 km Baner Casachstan Alexandre Vinokourov
10 15 Gorffennaf GapMarseille Cymal gwastad 219.5 km Baner Denmarc Jakob Piil
11 17 Gorffennaf NarbonneToulouse Cymal gwastad 153.5 km Baner Sbaen Juan Antonio Flecha
12 18 Gorffennaf GaillacCap Découverte Treial amser unigol 47.0 km Baner Yr Almaen Jan Ullrich
13 19 Gorffennaf ToulouseAx 3 Domaines Cymal mynyddig 197.5 km Baner Sbaen Carlos Sastre
14 20 Gorffennaf Saint-GironsLoudenvielle Cymal mynyddig 191.5 km Baner Yr Eidal Gilberto Simoni
15 21 Gorffennaf Bagnères-de-BigorreLuz Ardiden Cymal mynyddig 159.5 km Baner UDA Lance Armstrong
16 23 Gorffennaf PauBayonne Cymal mynyddig 197.5 km Baner UDA Tyler Hamilton
17 24 Gorffennaf DaxBordeaux Cymal gwastad 181.0 km Baner Yr Iseldiroedd Servais Knaven
18 25 Gorffennaf BordeauxSaint-Maixent-l'École Cymal gwastad 203.5 km Baner Sbaen Pablo Lastras
19 26 Gorffennaf PornicNantes Treial amser unigol 49.0 km Baner Prydain Fawr David Millar
20 27 Gorffennaf Ville-d'AvrayParis (Champs-Élysées) Cymal gwastad 152.0 km Baner Ffrainc Jean-Patrick Nazon

Arweinwyr y dosbarthiadau

[golygu | golygu cod]
Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol

Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau

Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd

Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc

Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm

Classement par équipe
Gwobr Brwydrol

Prix de combativité
P Bradley McGee Bradley McGee Bradley McGee dim gwobr Vladimir Karpets US Postal dim gwobr
1 Alessandro Petacchi Robbie McEwen Christophe Mengin Andy Flickinger Andy Flickinger
2 Baden Cooke Baden Cooke Frédéric Finot
3 Alessandro Petacchi Jean-Patrick Nazon Anthony Geslin
4 US Postal Víctor Hugo Peña Vladimir Karpets dim gwobr
5 Alessandro Petacchi Frédéric Finot Frédéric Finot
6 Alessandro Petacchi Alessandro Petacchi Christophe Mengin René Andrle
7 Richard Virenque Richard Virenque Baden Cooke Richard Virenque Denis Menchov Quick Step-Davitamon Richard Virenque
8 Iban Mayo Lance Armstrong Euskaltel-Euskadi Nicolas Portal
9 Alexander Vinokourov Jörg Jaksche
10 Jakob Piil Team CSC José Gutiérrez
11 Juan Antonio Flecha Juan Antonio Flecha
12 Jan Ullrich iBanesto.com dim gwobr
13 Carlos Sastre Team CSC Carlos Sastre
14 Gilberto Simoni Laurent Dufaux
15 Lance Armstrong Sylvain Chavanel
16 Tyler Hamilton Tyler Hamilton
17 Servais Knaven Servais Knaven
18 Pablo Lastras Robbie McEwen Andy Flickinger
19 David Millar dim gwobr
20 Jean-Patrick Nazon Baden Cooke Bram de Groot
Terfynol Lance Armstrong Baden Cooke Richard Virenque Denis Menchov Team CSC Alexander Vinokourov

Nodiadau

[golygu | golygu cod]

Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn). Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. (Ffrangeg) Jacques Augendre (2009). Guide Historique (PDF). Amaury Sport Organisation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2009. Adalwyd ar 30 Medi 2009.
  2. (Saesneg) Maillot jaune Lance Armstrong speaks, July 24, 2004. Cycling News (24 Gorffennaf 2004). Adalwyd ar 12 Awst 2009.
  3. Samuel Abt. "Effects of a Crash Landing Are Still Hampering Beloki", 30 Mai 2004.
  4. (Saesneg) Chris Henry (17 Tachwedd 2003). Change and challenge for Joseba Beloki. Cycling News. Adalwyd ar 23 Awst 2011.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015