Tyler Posey
Gwedd
Tyler Posey | |
---|---|
Posey yn 2017 | |
Ganwyd | Tyler Garcia Posey 18 Hydref 1991 Santa Monica |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor plentyn, actor teledu, gitarydd, canwr, actor ffilm, actor llais, video game actor, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr teledu, sinematograffydd, golygydd ffilm, sgriptiwr ffilm |
Tad | John Posey |
Mae Tyler Garcia Posey (ganed 18 Hydref 1991) yn actor Americanaidd sy'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Scott McCall ar y rhaglen deledu MTV Teen Wolf.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Tyler yn Santa Monica, California, ac mae'n byw yn ardal Los Angeles gyda'i ddau gŵn. Ef yw mab Cyndi Garcia (1959-2014) a'r actor/ ysgrifennwr John Posey. Mae o dras Mecsicanaidd (ar ochr ei fam) a Seisnig (ochr ei dad). Datblygodd Tyler ddiddordeb cynnar yn y celfyddydau, a dechreuodd ei yrfa actio yn perfformio ar y llwyfan gyda'i dad actor / athro, yn chwech oed. Yn ddiweddarach, buont yn gweithio mewn teledu a ffilm gyda'i gilydd. Mae hefyd yn ganwr/cyfansoddwr caneuon. Mae ganddo ddau frawd, brawd hynaf, Derek, a brawd iau, Jesse Posey (sydd hefyd yn actor).