William Morgan (esgob)
William Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 1547 Tŷ Mawr Wybrnant |
Bu farw | 10 Medi 1604 Llanelwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, offeiriad, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl |
Swydd | Esgob Llandaf, Esgob Llanelwy |
Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604) oedd y gŵr a gyfieithodd y Beibl yn gyflawn i'r Gymraeg am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd ei Feibl ym 1588. Credir yn gyffredinol mai hynny gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi, a hynny am nad oedd gan yr iaith unrhyw statws na defnydd swyddogol o gwbl fel arall am ganrifoedd dan y drefn a osodwyd ar Gymru gyda'r "Deddfau Uno".
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd William Morgan yn Nhŷ Mawr y Wybrnant, ger Penmachno, yn fab i denant ar ystad Gwydir. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, Morys Wyn, ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd Edmwnd Prys fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt.
Yng Nghaergrawnt fe astudiodd athroniaeth, mathemateg a Groeg gan raddio'n faglor yn y celfyddydau ym 1568 ac yn feistr ym 1571. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol i gyd, gan feistroli Lladin, Hebraeg, Aramaeg, Ffrangeg ac Almaeneg yn ogystal â gweithiau Tadau'r Eglwys a diwinyddion Protestannaidd y cyfnod. Graddiodd yn faglor mewn diwinyddiaeth ym 1578 ac yn ddoethur ym 1583.
Clerigwr
[golygu | golygu cod]Cafodd William Morgan ei ordeinio'n glerigwr yn Eglwys Loegr ym 1568 gan Esgob Ely. Apwyntiwyd ef yn ficer Llanbadarn Fawr ym 1572, yna'r Trallwng ym 1575 a Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ym 1578. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef hefyd yn Bregethwr y Brifysgol yng Nghaergrawnt. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant priododd â Catherine ferch George ac yno hefyd y gwnaeth llawer o'i waith cyfieithu, gan weithio yno hyd at ei ddyrchafiad yn Esgob Llandaf ym 1595. Ym 1601 daeth yn Esgob Llanelwy lle y bu hyd at ei farwolaeth ym 1604.
Cyfieithu'r Beibl
[golygu | golygu cod]Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn 1587 roedd wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocrypha, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg ym 1588.
Canmolwyd y cyfieithiad gan lenorion cyfoes, yn cynnwys Siôn Tudur, Siôn Dafydd Rhys, Ieuan Tew a Morris Kyffin.
- Cerflun ar fur Eglwys Gadeiriol Llandaf
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir bywgraffiadau o William Morgan gan Charles Ashton (1891), W. Hughes (1891), T. Evan Jacob, G. J. Roberts (1955) ac R. T. Edwards (1968).
Astudiaethau:
- Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
- Prys Morgan, Beibl i Gymru (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Bro Machno
- Cristnogaeth yng Nghymru
- Cyfieithwyr y Beibl
- Cyfieithwyr o Gymru
- Pobl yr 16eg ganrif o Gymru
- Pobl yr 17eg ganrif o Gymru
- Esgobion Llanelwy
- Esgobion Llandaf
- Genedigaethau 1545
- Llenorion Cymraeg
- Llenorion yr 16eg ganrif o Gymru
- Llenorion yr 17eg ganrif o Gymru
- Marwolaethau 1604
- Pobl o Fetws-y-Coed
- Pobl o Gonwy
- Ysgolheigion Cymraeg