Wolmar Schildt
Wolmar Schildt | |
---|---|
Ganwyd | Wolmar Styrbjörn Schildt 31 Gorffennaf 1810 Laukaa |
Bu farw | 8 Mai 1893 Jyväskylä |
Man preswyl | Vuontee |
Dinasyddiaeth | Uchel Ddugiaeth y Ffindir |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, llenor, gwleidydd, cyhoeddwr, Provincial Doctor, newyddiadurwr |
Swydd | member of the Diet of Finland, municipal councillor in Finland |
Plant | Onni Schildt, Aatos Schildt |
Perthnasau | Erik Alexander Ingman, Gustaf Tigerstedt |
Gwobr/au | Urdd Sant Anna, 3ydd Dosbarth, Q62732058, Q121558491 |
Meddyg ac awdur (dan y ffugenw Volmari Kilpinen) o'r Ffindir oedd Wolmar Styrbjörn Schildt (31 Gorffennaf 1810 yn Laukaa – 8 Mai 1893 yn Jyväskylä).[1]
Cymhwysodd Schildt fel meddyg ym 1840 a bu'n feddyg cefn gwlad yn Saarijärvi ac yna yn ardal Jyväskylä rhwng 1839 a 1888. Roedd yn adnabyddus yn bennaf am ei ymdrechion i wneud y Ffinneg yn iaith ddiwylliannol ac i greu dosbarth Ffinneg diwylliedig. Ymhlith y mentrau a gychwynnodd, sefydlodd yr ysgol ramadeg Ffinneg gyntaf ym 1858 yn ninas Jyväskylä. Roedd hefyd yn hoff o greu termau newydd yn yr iaith Ffinneg. Bathodd tua 500 o eiriau diwylliannol Ffinneg ac mae rhyw 100 yn cael eu defnyddio yn yr iaith nawr, er enghraifft, tiede "gwyddoniaeth, celfyddyd", taide "celf", kirje "llythyr", yksilö "unigolyn", esine "gwrthrych", henkilö "person, ffigwr", kirjailija "awdur", oppilas "disgybl", yleisö "cynulleidfa, cyhoedd", sairaala "ysbyty", vankila "carchar". Cyfieithodd Elfennau Euclid i'r Ffinneg (1847) hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Forsius, Arno. "Wolmar Schildt (-Kilpinen) (1810—1893) — lääkäri ja suomalaisuusmies". Julkaistu aikaisemmin Lääkärilehdessä 1993. Ihmisiä lääketieteen historiassa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-01. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) (Ffinneg)