Y Gofalwr
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1964 |
Awdur | Harold Pinter |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 Hydref 2011 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781845273576 |
Tudalennau | 152 |
Cyfieithiad Cymraeg o ddrama The Caretaker gan Harold Pinter wedi'i chyfieithu gan Elis Gwyn Jones yw Y Gofalwr. Mae'r ddrama yn dyddio o 1964. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2011 i gyd fynd â llwyfaniad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama yn 2010. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1] Bu o leiaf dau gynhyrchiad blaenorol hefyd gan gynnwys Theatr y Gegin yng Nghricieth ym 1964 a Chwmni Theatr Cymru ym 1970.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Cyfieithiad Elis Gwyn o ddrama Harold Pinter am dri chymeriad yn dioddef stormydd emosiynol wrth geisio byw mewn amgylchiadau oer a dideimlad.
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Dyma ddrama lwyddiannus cyntaf Harold Pinter, ar ôl i The Birthday Party gau gwta wythnos wedi’r agor. Oni bai am adolygiad ffafriol Harold Hobson yn y Sunday Times, gafodd ei gyhoeddi ddiwrnod wedi’r cau, go brin fyddai neb wedi clywed namyn mwy am Pinter, a’i ddawn fel dewin y geiriau a’r seibiau."[2]
"Profiad personol Pinter, pan oedd yn byw mewn fflat yn Chiswick oedd egin y ddrama; mae’n cofio dau frawd yn byw ar un o’r lloriau isaf – un yn weithiwr diwyg, yn rhuthro lan a lawr y grisiau yn ddyddiol, cyn gyrru ymaith yn ei fan wen, tra bod y llall yn llawer mwy tawel, yn ei ddyfnder o ddirgelwch. Un noson, fe wahoddodd y brawd tawel drempyn i’r tŷ, hen ŵr a fu’n trigo gyda’r teulu am dair neu pedair wythnos. Dyna’r sbarc a daniodd dychymyg Pinter, sy’n nodweddiadol o sawl drama arall o’i eiddo. “I just write” oedd ei genadwri, gan adael i gyfrolau o ddamcaniaethau geisio eglurhad."[2]
"Braidd yn drwsgl oedd y trosiad imi," meddai adolygydd Theatr Y Cymro, wrth adolygu'r ddrama yn 2010, "...yn cwffio’n anfodlon gyda’r Saesneg farddonol wreiddiol, a dialog cyhyrog, gyfoethog Eifionydd. Roedd defnyddio’r gair “caretaker” yn chwithig iawn yn yr Act gyntaf, a hynny o enau ‘Aston’ [...] oedd yn amlwg yn medru ynganu geiriau Cymraeg godidog pan y myn. Roedd na gryn anghysondeb drwyddi draw, a dylid fod wedi cywiro neu addasu, er mwyn y glust. Collwyd llawer o’r seibiau effeithiol bwriadol, a’r cyfarwyddiadau llwyfan manwl o’r gwreiddiol, yn enwedig ar gychwyn y ddrama, drwy ddileu presenoldeb bygythiol ‘Mick’ [...] ac elfennau pwysig o’r dirgelwch."[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Davies - y trempyn
- Mick
- Aston
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]Cafwyd y cynhyrchiad cyntaf ohoni gan Theatr y Gegin, Cricieth ym 1964.[3] Cyfarwyddwr Elis Gwyn Jones.
- Davies - Guto Roberts
- Mick - Wil Dafydd (William Dafydd Jones)
- Aston - Stewart Jones
"Guto Roberts gymrodd ran y tramp yn Y Gofalwr; Stewart Jones oedd y brawd ymosodol; a W.D. Jones, y bardd, oedd yn actio'r brawd gwael", yn ôl Wil Sam yn ei hunangofiant. "Roedd y tri ar eu gorau. Dyma'r gwaith gorau wnaeth Guto erioed, yn fy marn i ac ym marn pobl llawer mwy deallus na fi. Mi welais Donald Pleasance yn cymryd rhan y tramp ar y llwyfan yn Llundain ac mi swynodd y gynulleidfa efo'i bortread o'r hen swnyn, ond wir, roedd Guto cystal os nad gwell na Pleasance y noson honno yn 1968".[4]
1970au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970.
- Davies - Meredith Edwards
- Mick - Owen Garmon
- Aston - Gwyn Parry
2010au
[golygu | golygu cod]Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010. Dyma oedd cynhyrchiad olaf Cefin Roberts fel arweinydd artistig y Cwmni.[2] Cyfarwyddwr Cefin Roberts; cynllunydd Sean Crowley
- Davies - Llion Williams
- Mick - Carwyn Jones
- Aston - Rhodri Siôn
"Gyda balchder, roedd y cwmni’n arddangos poster o gynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o’r ddrama," meddai Paul Griffiths yn Y Cymro, "...ac enw Meredith Edwards yn serennu ar y poster. Dyma ichi actor profiadol, yn ei bumdegau hwyr bryd hynny, wedi gyrfa lwyddiannus ar lwyfan ac ym myd y ffilmiau. Jonathan Pryce wedyn, yn y Trafalgar Studios yn Llundain, eto’n ŵr yn ei oed a’i amser, a phrofiad helaeth ar sawl llwyfan yn sylfaen gadarn i ddenu’r gynulleidfa. Mae’r rhestr o’r enwogion solet, sydd wedi cytuno i bortreadu’r dieithryn o drempyn ‘Davies’, sy’n dod i amharu ar fywydau’r ddau frawd ‘Aston’ a ‘Mick,‘ yn nodedig iawn : Donald Pleasance, Warren Mitchell, Michael Gambon, Patrick Stewart a Leonard Rossiter. Pob un yn llawer hŷn, na’r dewisedig Llion Williams [...] Rhaid canmol Llion Williams eto am ymdrech deg iawn, ond wedi gweld Jonathan Pryce yn hawlio’r llwyfan o’r cychwyn hyd y diwedd, allwn i’m peidio teimlo bod angen actor llawer hŷn tebyg i Stewart Jones neu John Ogwen, i gynnal y cyfan," ychwanegodd.[2]
"Felly, mae arnai ofn, mai methiant arall oedd y cynhyrchiad hwn, sy’n cynnwys holl wendidau cyson cyfnod Cefin [Roberts] wrth y llyw [Theatr Genedlaethol Cymru]; gorddibyniaeth ar ddeunydd cyn cwmnïau drama Cymraeg, cyfieithiadau sigledig, castio anghywir, absenoldeb actorion cydnabyddedig, setiau rhy fawr ac anymarferol, a dim gweledigaeth gyffrous a mentrus."[2]
Mwy cadarnhaol oedd adolygiad Jane Wyn ar wefan BBC Cymru : "Cafwyd cymeriadu arbennig o dda a'r tri actor yn rhoi perfformiadau egnïol a chredadwy yn ystod y cynhyrchiad sydd ryw ddwy awr o hyd. [...] Roedd monolog Aston yn effeithiol iawn a pherfformiad Llion Williams o greadur pathetig - ond balch - Davies yn gofiadwy. Roedd y set yn wych: cafwyd pileri pren trwchus oedd wedi eu hamgylchynu gan focsys anniben yn pwyso ar ongl fregus yr olwg yn fframio'r llwyfan. Yn bendant, roedd y set yn adlewyrchu stad ansefydlog y cymeriadau a'r berthynas fregus rhyngddynt. [...] Roedd aelodau'r gynulleidfa yn cael eu sugno i mewn i fyd celwyddog, aml-haen y cymeriadau ac roedd y golygfeydd lle'r oedd yna drais yn real ac yn fygythiol iawn. Dyma theatr fyw ar ei gorau ac ymateb y gynulleidfa yn bositif iawn, ar y cyfan Clywais un person yn dweud ei fod yn teimlo braidd yn gysglyd yn ystod yr hanner cyntaf ond bod yr ail hanner yn electrig."[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Griffiths, Paul (2010-02-12). "Paul Griffiths: Y Gofalwr". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2024-09-17.
- ↑ "Harold Pinter". pinterlegacies.uk. Cyrchwyd 2024-09-17.
- ↑ Hywyn, Gwenno (1985). Wil Sam - Cyfres Y Cewri 5. Gwasg Gwynedd.
- ↑ "BBC - Cymru - Cylchgrawn - Adolygiadau - Y Gofalwr: adolygiad Jane Wyn". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-17.