Y Gwyddonydd
Math o gyfrwng | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Mawrth 1963 |
Dechrau/Sefydlu | 1963 |
Lleoliad cyhoeddi | Caerdydd |
Gwefan | http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/listissues/llgc-id:1394134 |
- Erthygl am gylchgrawn yw hon. Gweler hefyd Gwyddonydd.
Cylchgrawn Cymraeg oedd Y Gwyddonydd yn cynnwys erthyglau, adolygiadau ac eitemau newyddion ar bynciau gwyddonol. Cafodd ei gyhoeddi rhwng 1963 a 1996 gan Wasg Prifysgol Cymru.
Ymddangosodd y cyfnodolyn chwarterol Y Gwyddonydd am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1963, gyda chyhoeddiadau cyson hyd at 1996. Yr Athro Glyn O Phillips oedd y golygydd o'r rhifyn cyntaf yn 1963 hyd at y rhifyn olaf, yn 1993. "Fe'i sefydlwyd er mwyn dangos fod ymdrin â pynciau gwyddonol a thechnolegol o bob math drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbwl bosibl" yn ôl Dr Hefin Jones.[1] Nifwl troellog trobwll yng nghytser Canes Venatica oedd y llun ar glawr y rhifyn cyntaf.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y rhifyn cyntaf
[golygu | golygu cod]Ffrwyth llafur Prifysgol Bangor oedd ar y cylchgrawn yn wreiddiol. Yn gefn i'r Golygydd Glyn O. Phillips, roedd Bwrdd Golygol: Llewelyn Chambers, Howard Davies a'r Dr Iolo Wyn Williams.[2] Costiodd 3/6 (tri swllt a chwech) y rhifyn. Yn ei gyflwyniad dywed Is-Ganghellor Prifysgol Bangor y Dr Thomas Parry, "Dr Llywelyn Chambers a awgrymodd gyntaf y dylai fod cylchgrawn Cymraeg i drafod pynciau gwyddonol. Cafodd ef gefnogaeth ei goleg ym Mangor a phasiwyd ei awgrym i Fwrdd Gwasg y Brifysgol. Yng Ngorffennaf 1962 fe gyfarfu wyth o wyddonwyr o Gymry, dau o bob un o golegau'r Brifysgol, i drafod y posibilrwydd i gychwyn cylchgrawn gwyddonol Cymraeg."
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fideo ar You Tube; adalwyd 3 Chwefror 2015
- ↑ welshjournals.llgc.org.uk;[dolen farw] adalwyd 3 Chwefror 2015
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Y Gwyddonydd ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein