Neidio i'r cynnwys

Y Mab Cryg

Oddi ar Wicipedia
Y Mab Cryg
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Y Mab Cryg (bl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed). Ymddengys fod y llysenw yn cyfeirio at ei lais (cf. Gruffudd Gryg, Rhys Gryg).[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddom am y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth y tair cerdd o'i waith sydd ar glawr heddiw am ein gwybodaeth. Cedwir y copïau cynharaf o'r cerddi hyn mewn rhan o Lyfr Coch Hergest a ychwanegywd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny. Mae cyfeiriadau yn ei gerddi yn awgrymu ei fod yn frodor o Geredigion, efallai o gyffiniau Aberystwyth.[1]

Cerddi

[golygu | golygu cod]

Ceir tair awdl fer gan y bardd yn Llyfr Coch Hergest. Cerddi dychan ydynt i gyd. Mae cyfeiriadau yn y cerddi hyn yn dangos ei fod yn gyfarwydd ag Aberystwyth (Pen Dinas) ac ardal Rhwng Gwy a Hafren, yn enwedig Maesyfed (cyfeiria at afonydd Tefeidiad, Ieithon a Chymaron ac at Raeadr Gwy). Yn ei ddychan i leidr a dorrodd i mewn i'w dŷ dywed ei fod wedi dwyn ei drwsus, ei ieir, ei grib, coes llwy a hen gôt ei fam-yng-nhyfraith: dymuna weld crogi'r leidr ar grogbren Pen Dinas, ger Aberystwyth.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 2002)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 2002)