Ynysoedd Ffaröe
Math | gwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc, etholaeth |
---|---|
Prifddinas | Tórshavn |
Poblogaeth | 54,149 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Tú alfagra land mítt |
Pennaeth llywodraeth | Aksel V. Johannesen |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffaröeg, Daneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Brenhiniaeth Denmarc, the unity of the Realm, Gogledd Ewrop |
Sir | Brenhiniaeth Denmarc |
Gwlad | Ynysoedd Ffaröe |
Arwynebedd | 1,399 km² |
Gerllaw | Môr Norwy |
Yn ffinio gyda | Gwlad yr Iâ |
Cyfesurynnau | 61.9699°N 6.8445°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Løgting |
Pennaeth y wladwriaeth | Frederik X, brenin Denmarc |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prime Minister of the Faroe Islands |
Pennaeth y Llywodraeth | Aksel V. Johannesen |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,650 million |
CMC y pen | $3,000 million |
Arian | Faroese króna |
Cyfartaledd plant | 2.6 |
Ynysfor yng Ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a Chefnfor yr Iwerydd yw'r Ynysoedd Ffaröe[1] (Ffaröeg: Føroyar, Daneg: Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy. Mae'r ynysoedd yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland.
Maen Ynysoedd Ffaröe yn dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Cyrhaeddodd yr ynys boblogaeth o 50,000 am y tro cyntaf erioed yn ei hanes yng nghannol 2017.[2] Mae'r llywodraeth wedi ceisio delio gydag allfudo, yn enwedig allfudo menywod ifanc, a bydd nifer o ddynion yn canlyn gwragedd o Ynysoedd y Ffilipinau i fod i'w priodi.[3] Mae ymdrechion i geisio gymathu newydd-ddyfodiaid i iaith unigryw a diwylliant yr ynysoedd.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y Llychlynwyr; mae hanes y drefedigaeth i'w chael yn y Færeyinga Saga.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlynnol-Scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.
Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'r Ffaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd, Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.
Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol, Glasir a Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe ar yr ynysoedd, a Ffaroeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Wedi'r Ail Ryfel Byd pan meddiannwyd yr Ynysoedd gan luoedd Prydain, cafodd yr Ynyswyr flas ar fod yn hunanlyworaethol gan i Ddenmarc cael ei meddiannu gan y Natsïaid. Yn sgîl hyn cafwyd Refferendwm ar Annibyniaeth yn 1948. Er i'r mwyafrif bleidleisio dros annibyniaeth, penderfynodd Denmarc beidio ildio'n llawn gan roi elfen gref o hunanlywodraeth yn lle.
Ceir trafodaeth gyson ar ddatganoli a bu bwriad cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2018 [5] ond ni ddaeth hyn i law. Serch hynny mae'r drafodaeth dros ragor o bwerau yn un byw.
Bu'r ynysoedd yn destun chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Albanaidd sydd eisiau annibyniaeth i'r Alban gan fod yn destun ffilm fer gan y newyddiadurwaig, Lesley Riddoch yn 2018.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "Faroe Islands, the Faroes".
- ↑ https://www.government.fo/en/news/news/the-population-of-the-faroe-islands-reaches-50-000/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/magazine-39703486
- ↑ https://www.irishtimes.com/news/world/europe/faroe-islands-aim-to-avoid-europe-s-mistakes-on-immigration-1.3661921
- ↑ https://www.government.fo/en/news/news/referendum-on-faroese-constitution-to-be-held-on-25-april-2018/
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=5qinWJqgGMw&t=24s