Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen
Math o gyfrwng | ysgol gynradd, ysgol Gymraeg |
---|---|
Lleoliad | Llanbedr Pont Steffan |
Rhanbarth | Sir Gaerfyrddin |
Ysgol gynradd ffedral yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen.
Sefydlwyd fel ysgol ffedral ym mis Medi 2000, wedi cyfuniad tair ysgol cymunedol Coedmor, Ffarmers a Llanycrwys.[1] Lleolwyd ar dri safle yn Uned Coedmor, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan, ac ym mhentrefi Ffarmers a Llanycrwys. Mae hi'n derbyn plant rhwng 4 ac 11 mlwydd oed. Bydd unedau Ffarmers a Llanycrwys yn cau ym mis Rhagfyr 2009, gan orfodi'r disgyblion i deithio chwe milltir ymhellach i fynychu uned Coedmor.[2]
Mr Aled Jones Evans yw'r prifathro presennol.[2]
Roedd 105 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2003. Siaradai 58% ohonynt Gymraeg fel iaith gyntaf gartref, gostyngiad sylweddol ar y blynyddoedd cynt, ond beirniedir y gall 73% o'r disgyblion siarad yr iaith i afon iaith gyntaf.[1]
Mae'r wisg ysgol yn cynnwys crys chwys piws a chrys gwyrdd-las.[3]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Inspection: 20 – 22 October 2003. ESTYN.
- ↑ 2.0 2.1 Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Ysgol Carreg Hirfaen.
- ↑ School Prospectus. Ysgol Carreg Hirfaen.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2009-09-27 yn y Peiriant Wayback (Mae nifer o'r tudalennau ond yn gweithio ar yr ochr Saesneg)