Ysgol Lausanne
Ysgol feddwl ym maes economeg sydd yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth cydbwysedd cyffredinol yw Ysgol Lausanne. Mae'n seiliedig ar syniadau a thechnegau dadansoddol a ddyfeisiwyd gan ddau o athrawon economi wleidyddol Prifysgol Lausanne, y Swistir: Léon Walras (a fu yn y swydd 1870–92) a Vilfredo Pareto (1893–1923). Gellir ei hystyried yn rhan o draddodiad economeg newydd-glasurol a fu ar ei anterth yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, a chafodd effaith bwysig ar fathemateiddio disgyblaeth economeg.
Treuliodd Walras ei gyfnod yn athro economi wleidyddol Prifysgol Lausanne yn ymdrin â La Question Sociale, hynny yw problemau cymdeithasol o ganlyniad i ddosbarthiad cyfoeth, drwy ailystyried sylfaen athronyddol economeg. Ei brif ddylanwad deallusol oedd y rhesymolwyr Ffrengig. Nod Walras oedd defnyddio fformwleiddiadau mathemategol i ganfod y deddfau gwyddonol a fyddai'n pennu'r dosbarthiad tecaf a'r cynhyrchiant mwyaf. Lluniodd ddamcaniaeth systematig o'i syniadaeth economaidd yn ei gampwaith, Éléments d’économie politique pure (1874–77), ond bu'n rhaid iddo ymddeol o'r brifysgol yn 1892 oherwydd afiechyd. Cyhoeddodd ei ddamcaniaeth ynghylch dosbarthiad y cyfoeth cymdeithasol (economeg gymdeithasol) yn y gyfrol Études d’économie sociale (1896) a'i ddamcaniaeth ynghylch cynhyrchu cyfoeth cymdeithasol (economeg gymhwysol) yn Études d’économie politique appliquée (1898).[1]
Cychwynnodd Pareto yn y swydd yn 1894, ac aeth ar drywydd ychydig yn wahanol i'w ragflaenydd. Trodd ei gefn ar economeg gymdeithasol, gan ddadlau nad oedd yn dechneg addas er ymdrin â La Question Sociale. Dylanwadwyd arno gan yr empiryddion o wledydd Prydain, ac ymdrechodd Pareto ddangos manteision masnach rydd yn hytrach na hybu diwygiadau economaidd-gymdeithasol. Defnyddiodd fodelau mathemategol tebyg i'r hyn a wnaeth Walras, er nad oedd ei gysyniadaeth o'r cydbwysedd cyffredinol yn unfath. Buont hefyd yn anghytuno dros y berthynas rhwng dewisiadau'r unigolyn â'r farchnad. Yn ei gyfrol gyntaf, Cours d'économie politique (1897), cyflwyna Pareto ei ddeddf parthed dosbarthiad incwm, ac yn Manuale di economia politica (1906) mae'n ymhelaethu ar ei ddamcaniaeth o economeg bur ac yn cyferbynnu budd economaidd (utilità) â boddhad economaidd (ofelimità). Yn ddiweddarach, trodd Pareto ei sylw at astudiaethau ym maes cymdeithaseg. Bu farw yn 1923, a fe'i olynwyd yn ei swydd yn Lausanne gan Pasquale Boninsegni. Ysgrifennodd Boninsegni ychydig o erthyglau, ond ni chyfrannodd fawr at ddamcaniaethau economaidd o'i gymharu â Walras a Pareto, a dyna ddiwedd ar Ysgol Lausanne.[1]
Prif gyfraniad Ysgol Lausanne at ddisgyblaeth economeg gyfan oedd yr ymdrech i fynegi damcaniaethau yn nhermau mathemategol ac i ddehongli mecanweithiau economaidd drwy gyfrwng prosesau mathemategol. Am y rheswm honno, gelwir Ysgol Lausanne weithiau yn yr Ysgol Fathemategol. Ymddiddorai sawl mathemategydd, megis Karl Menger, yn astudiaethau economaidd yn y 1930au a thu hwnt. O ganlyniad, y dull mathemategol a fu'n drech na'r dull darganfyddol yn namcaniaeth cydbwysedd cyffredinol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Roberto Baranzini, "Lausanne, School of" yn International Encyclopedia of the Social Sciences. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 13 Chwefror 2020.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Giovanni Busino a Pascal Bridel, L’école de Lausanne de Léon Walras à Pasquale Boninsegni (Lausanne: Université de Lausanne, 1987).
- Bruna Ingrao a Giorgio Israel, La mano invisibile. L’equilibrio economico nella storia della scienza (Cambridge, Massachusetts: MIT Press, 1990).