Aromaniaid
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Aromanian |
Crefydd | Eglwysi uniongred |
Gwladwriaeth | Gwlad Groeg, Albania, Rwmania, Serbia, Bwlgaria, Gogledd Macedonia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig Romáwns yw'r Aromaniaid sydd yn frodorol i'r Balcanau. Amcangyfrif taw 350,000–3 miliwn ohonynt sydd yn byw mewn cymunedau gwasgaredig ar draws Albania, Bwlgaria, Gwlad Groeg, Gogledd Macedonia, Rwmania, a Serbia. Aromaneg, iaith Romáwns, yw eu hiaith frodorol, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn Gristnogion Uniongred Dwyreiniol.
Nid yw hanes gwreiddiau'r Aromaniaid yn sicr, er eu bod yn honni llinach â threfedigaethwyr Rhufeinig. Mae rhai ysgolheigion yn credu eu bod yn disgyn o'r bobloedd frodorol a gawsant eu Lladineiddio dan reolaeth y Rhufeiniaid. Siaredir ffurf ar Ladin ganddynt nes y 9g. Chwaraeant ran bwysig wrth ffurfio Ail Ymerodraeth Bwlgaria yn 1183. Daeth y mwyafrif o'r Balcanau dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1393. O hynny ymlaen, rheolai'r llwybrau masnach yn ne'r Balcanau gan yr Aromaniaid. Yn ogystal â masnachu, buont yn cadw gwartheg, magu ceffylau, a bugeilio.[1]
Yn hanesyddol, bu'r Aromaniad yn uniaethu â'i bentref, dyffryn, ardal, neu glan. Ni ymddangosodd hunaniaeth genedlaethol ymhlith yr Aromaniaid nes y 19g, a chawsant eu cydnabod yn grŵp ethnig yn 1905. Er iddynt brofi ymwybyddiaeth genedlaethol newydd, cafodd nifer o Aromaniaid eu cymathu gan genhedloedd cyfagos. Ers y 1960au bu adfywiad ieithyddol, diwylliannol, a gwleidyddol ymhlith cymunedau'r Aromaniaid.[1]