Chris Rees
Chris Rees | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ionawr 1931 |
Bu farw | 1 Rhagfyr 2001 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Cyflogwr |
Gwleidydd cenedlaetholgar o Gymru oedd Edward Christopher Rees (5 Ionawr 1931 – 1 Rhagfyr 2001), a adnabyddir fel Chris Rees.
Magwyd Chris Rees yn Abertawe ac ymunodd â Phlaid Cymru yn ifanc. Ym 1951, gwrthododd wneud Gwasanaeth Cenedlaethol, ar y sail ei fod yn Gymro, a dedfrydwyd ef i flwyddyn yn y carchar.
Ymgeisydd Plaid Cymru
[golygu | golygu cod]Tra'n cael ei garcharu eto yn ddiweddarach, safodd dros y blaid yng Ngŵyr yn etholiad cyffredinol y DU yn 1955, gan gymryd ychydig dros 10% o'r bleidlais.[1] [2] Safodd yn ddiweddarach yn isetholiad Dwyrain Abertawe 1963, ac eto yn y sedd yn 1964 a 1966, yna ym Merthyr Tudful yn 1970, ond ni chafodd ei ethol.[3]
Ym 1964, etholwyd Rees yn Is-lywydd y Blaid,[3] gan guro Elystan Morgan yn annisgwyl, a oedd yn cael ei gweld fel yr ymgeisydd mwy ceidwadol.[4] Ym 1966, Rees yn lle hynny oedd Cadeirydd cyntaf y Blaid, gan wasanaethu tan 1970.[3]
Er i Rees gael ei fagu mewn teulu Saesneg ei iaith, dysgodd Gymraeg yn oedolyn, a daeth yn brif iaith iddo.[5] Daeth yn ddarlithydd coleg,[6] ac erbyn 1970 yn Gyfarwyddwr Polisi'r Blaid. Yn y rôl hon, lluniodd bolisi iaith manwl a fabwysiadwyd gan y Blaid.[7]
Un o sylfaenwyr Wlpan
[golygu | golygu cod]Ym 1973, addasodd Rees system Ulpan o ddysgu iaith ar gyfer dysgwyr Cymraeg, gan ei ailenwi'n Wlpan,[8] ac o 1975, canolbwyntiodd ar redeg Canolfan Dysgu'r Gymraeg i Oedolion, a leolir yn yr hyn a ddaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.[9] Bu farw yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2001 yn 70 oed.[10] Galwyd Chris Rees yn "dad yr Wlpan Cymraeg" oherwydd ei waith wrth sefydlu'r fenter.[11] Yn 1973 y cychwynnodd y cyrsiau Wlpan ar gyfer y cyhoedd gyda Gwilym Roberts a Chris Rees yn rhedeg y cwrs Wlpan cyntaf yng hen Ganolfan yr Urdd ar Heol Conwy, Pontcanna, Caerdydd sydd bellach wedi ei ddymchwel ac yn floc o rhandai. Penderfynodd Prifysgol Cymru archwilio i gyrsiau Cymraeg i oedolion ym 1974 a chyflogon nhw Chris Rees fel swyddog ymchwil a datblygu. Brasluniodd Chris Rees faes llafur. Yn ôl erthygl ddwyieithog ar y pwnc ar wefan Parallel Cymru mae ddau ohonyn nhw’n "gymeriadau eiconig o ran hybu’r Gymraeg, ac yn arloeswyr mewn dysgu’r iaith Gymraeg".[11]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cofio Chris Rees 1931-2001". Gwefan Hanes Plaid Cymru. 2021.
- ↑ Dafydd Williams, The Story of Plaid Cymru (Aberystwyth, 1990), t.16
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Knut Diekmann, Die nationalistische Bewegung in Wales (Paderborn: Ferdinand Schöningh, 1998), t.640
- ↑ Alan Butt Philip, The Welsh Question: Nationalism in Welsh Politics, 1945-1970 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymrul, 1975), t.95
- ↑ Bud B. Khleif, Language, Ethnicity, and Education in Wales (Den Haag: Mouton, 1980), t.39
- ↑ Morgannwg, cyf. 22-26, p.73
- ↑ Clive Betts, Culture in Crisis: The Future of the Welsh Language (Upton: Ffynnon Press, 1976), t.220
- ↑ Lynda Pritchard Newcombe, Social Context and Fluency in L2 Learners: The Case of Wales (Bryste, 1007), t.21
- ↑ Rebuilding the Celtic Languages: Reversing Language Shift in the Celtic Countries, gol. Diarmuid O'Néill (Talybont: Y Lolfa, 2005), t.62
- ↑ Ancestry: Mr Edward Christopher Rees in the England and Wales, Death Index, 1989-2018
- ↑ 11.0 11.1 Pritchard Newcombe, Lynda (23 Awst 2018). "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Papurau Chris Rees, 1959-69 yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion erthygl ddwyieithog yn Parallel.Cymru sy'n sôn am Chris a sefydlu'r Wlpan