Elwyn Hughes
Elwyn Hughes | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
- Peidied drysu â'r llenor a'r ieithyd, J. Elwyn Hughes
Elwyn Hughes oedd Uwch Gydlynydd Cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru, Bangor.[1] Cydnabuwyd ei lwyddiannau dros y 30 mlynedd diwethaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 pan enillodd wobr Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas i gydnabod ei waith.[2][3][4] Astudiodd Elwyn Hughes Ffrangeg ym Mhrifysgol Birmingham ac yna Prifysgol Quebec.[5]
Mae hefyd yn chwarae rhan genedlaethol amlwg ym maes Cymraeg i Oedolion. Mae bellach wedi ymddeol o'r swydd, ond yn dal i gefnogi dysgwyr Cymraeg ac yn arwain côr dysgwyr.
Ef yw awdur y cwrs llwyddiannus Wlpan i ddechreuwyr, ond mae hefyd wedi ysgrifennu cyrsiau a llyfrau ar gyfer dysgwyr mwy profiadol ledled gogledd Cymru.
Cydnabuwyd ei gyfraniad i Brifysgol Bangor yn 2000 pan gafodd ei wneud yn Gymrawd Dysgu.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mr Elwyn Hughes ar y dudalen staff". Gwefan Prifysgol Bangor. 22 Mehefin 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-22. Cyrchwyd 2022-06-22.
- ↑ "Special Honour for Elwyn on Bangor University's website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-08. Cyrchwyd 2008-06-11.
- ↑ "Journalist wins Eisteddfod Prose Medal". Daily Post. 4 Awst 2005.
- ↑ "Lluniau Dydd Iau". BBC Cymru Fyw. Awst 2005.
- ↑ "Get to Know your Tutors" (PDF). Arwyr Albany (cylchlythyr dysgwyr Cymraeg yng Ngogledd America. Gorffennaf 2007.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Elwyn Hughes - Cymraeg yn y Gweithle sgwrs ar BBC Radio Cymru, 18 Medi 2015
- WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion erthygl ddwyieithog yn Parallel.Cymru sy'n sôn am Elwyn a sefydlu'r Wlpan