Neidio i'r cynnwys

Cylch Dewi

Oddi ar Wicipedia
Cylch Dewi
Enghraifft o'r canlynolmudiad diwylliannol, Mudiad iaith, cenedlaetholdeb Cymreig Edit this on Wikidata
Daeth i ben1925 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1919 Edit this on Wikidata
R. Silyn Roberts aelod o'r Cylch
Bu W. J. Gruffydd yn weithgar gyda'r Cylch
Prif Athrawes Coleg Hyfforddi Athrawon Morgannwg, Ellen Evans a gyd-awdurodd gyhoeddiadau ar addysg i'r Cylch

Roedd Cylch Dewi yn grŵp o wladgarwyr a chenedlaetholwyr cyfoes cynnar â diddordeb mewn bywyd a diwylliant Gymraeg. Sefydlwyd 1919, ac, ymddengys mai yng Nghaerdydd ac Aberystwyth oeddynt fwyaf gweithgar.

Roedd ei haelodau’n hanu’n bennaf o’r cymunedau academaidd a llenyddol, a’r prif ysgogwyr y tu ôl i’r grŵp oedd Hywel T. James ac R T Jenkins. Meithrin defnydd o'r Gymraeg oedd amcanion Cylch Dewi; sicrhau lle haeddiannol i iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru yn y gyfundrefn addysg Gymreig; gwneud yr iaith Gymraeg, a llenyddiaeth ac addysg Cymru, yn sail i ddiwylliant brodorol gwirioneddol; cyfoethogi bywyd cenedlaethol Cymru trwy dynnu ar y gorau mewn bywyd a meddwl o dramor, a chefnogi pob mudiad arall sy'n anelu at sicrhau bywyd cenedlaethol llawnach a mwy rhydd i'r Cymry. Datblygodd y grŵp yn ystod y 1920au i fod y mudiad cyntaf i ymgyrchu dros ddarlledu Cymraeg.[1]

Ceir copi o'r cyfansoddiad (yn Saesneg yn eironig) 'Our Standpoint', sy'n nodi uchelgais y mudiad fel, "...to ensure that the language literature and history of Wales are given its rightful place in our education system."

Ymhlith yr aelodau blaenllaw oedd, Rhys Hopkin Morris (a aeth yn ei flaen i fod yn Cyfarwyddwr rhanbarth Cymru o'r BBC), y Parch Charles Davies, Capel y Tabernacl, Caerdydd (lle ddarlledwyd yr eitem fyw gyntaf yn y Gymraeg) yn yr 1950au, W.J. Gruffydd, R.T. Jenkins, Abel J. Jones Arolygydd Ysgolion ac, o bosib trefnydd y Cylch yng Nghaerdydd.

Cyhoeddodd y grŵp bamffledi gan gynnwys rhai ar y Gymraeg mewn Addysg, diwygio'r Ysgol Sul, "geirfa rhifyddeg", termau Cymraeg mathemeteg, yr aelwyd Gymraeg, ac annog rhieni i brynu llyfrau, cofnodolion a darluniau Cymraeg.[2]

Isbwyllgorau

[golygu | golygu cod]

Roedd gan Gylch Dewi sawl isbwyllgor, yn eu mysg oedd:[2]

  • Is-bwyllgor Gwleidyddol - Silyn Roberts, Rhys Hopkin Morris (bu hefyd yn aelod seneddol ac yn aelod o Gomisiwn Shaw i derfysgoedd Arabaidd yn Mhalestina'r Mandad yn 1929), R.T. Evans
  • Addysg - Mrs Morris, Mary Elizabeth Ellis (arolygydd ysgolion), Stanley H. Watkins
  • Cyhoeddi - W.J. Gruffydd, Abel J. Jones
  • Amaethyddiaeth
  • Cyhoeddus

Cyhoeddi a Hyrwyddo Syniadau

[golygu | golygu cod]

Roedd Cylch Dewi yn weithgar yn cyhoeddi pamffledi a llyfrynnau gan ei haelodau a chefnogwyr.

Enghraifft o'r pamffledi yma oedd, Welsh Books for Children ac Y Gymraeg yn yr Ysgolion a gyd-awdurwyd gan Ellen Evans, Prif Athrawes Coleg Hyfforddi Morgannwg yn y Barri.[3] Cyhoeddwyd y pamffledi am geiniog (neu 3 ceiniog ar gyfer rhai mwy swmpus fel Geirfa Rhifyddeg), a gwerthwyd dros 6,000 ohonynt, gan fwyaf drwy llyfrwerthwyr.[2]

Darlledu

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y BBC yn Chwefror 1923 ac erbyn diwedd 1924 roedd aelodau Cylch Dewi yn galw am ddatblygu radio yng Nghymru raglenni Cymraeg ar orsaf radio ardal Caerdydd - 5WA. Bu iddynt gwrdd ag E.R. Appleton, cyfarwyddwr gorsaf Caerdydd a darbwyllwyd arno i ddarlledu rhai rhaglenni, wedi eu cynhyrchu gan aelodau'r Cylch gan derbyn tâl bychan. Bu iddynt drefnu y darllediad diwifr cyntaf o wasanaeth crefyddol Cymraeg o Abertawe ar 22 Chwefror 1925.[4] Bu i gyfres o raglen redeg rhwng wyth a naw o'r gloch ar nos Sul, The Welsh Hour, o fis Ionawr 1925 ymlaen. Roedd y rhaglenni yn Saesneg, er ceid canu yn Gymraeg ac yn cynnwys canu pennillion, darllen barddoniaeth, a hanes Cymru. Bu hyn yn sail i ddarlledu Cymreig, ond roedd yn annigonol i aelodau'r Cylch, gan esgor ar ymgyrch dros rhagor o ddarpariaeth Gymraeg a Chymreig a lwyddo (o fath) i ennill Rhanbarth Gymreig y BBC yn 1937.[2]

Yn ôl Yr Athro Jamie Medhurst mewn sgwrs ar Gylch Dewi ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru yn mis Mawrth 2023 ddweud, "diolch i'r pwysau, gan gynnwys y pwysau cynnar yma [gan gyrff Cymreig] i sefydlu Rhanbarth Cymru o'r BBC yn 1937 a gan Cylch Dewi, sydd weithiau wedi anghofio am y gwaith arloesol, gwaith holl bwysig gwaneth Cylch Dewi yn y dyddiau cynnar hyn, ni'n cael Rhanbarth Cymru yn 1937".[2]

Cyd-destun

[golygu | golygu cod]

Roedd sefydlu Cylch Dewi yn rhan o ymchwydd o fentergarwch gwleidyddol a diwylliannol genedlaethol Gymraeg wedi diwedd y Rhyfel Mawr ac fel ymateb iddo. Daeth Cylch Dewi i esblygu at sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925.

Ymysg y mudiadau Cymreig eraill a sefydlwyd tua'r un adeg oedd:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cylch Dewi Archive". Gwefan JISC. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Wrth ddathlu 100 mlynedd o ddarlledu, hanes newydd sbon am fudiad Cylch Dewi Jamie Medhurst yn darganfod dau focs o ddogfennau coll am fudiad Cylch Dewi". Rhaglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru. 5 Mawrth 2023.
  3. "Rediscovering Ellen Evans (1891–1953),Principal of Glamorgan Training College, Barry" (PDF). Y Cymmrodorion. 2013.
  4. "100 mlynedd o'r BBC yng Nghymru: dechrau anesmwyth a dyfodol aneglur". Gwefan Prifysgol Aberystwyth. 14 Chwefror 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  • Cylch Dewi Archive ar wefan JISC, gohebiaeth, yn bennaf oddi wrth Hywel T James, yn ymwneud â Chylch Dewi; adroddiadau a phamffledi cyhoeddedig gan Cylch Dewi yn ymwneud â materion addysg Gymraeg; cofnodion a chofnodion presenoldeb yng nghyfarfodydd Cylch Dewi, a chyfansoddiad Cylch Dewi.