Deiniolen (pentref)
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanddeiniolen |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.146°N 4.121°W |
Cod OS | SH581631 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
- Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at y pentref yng Ngwynedd. Ceir sant hefyd o'r un enw, Deiniolen (sant).
Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Deiniolen[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Arfon, rhwng Mynydd Llandygái a Llanberis ac wrth droed Elidir Fawr. Gerllaw iddo mae dau bentref llai, Dinorwig a Chlwt-y-Bont.
Tyfodd y pentref o ganlyniad i dwf Chwarel Dinorwig, sydd ychydig i’r de. Agorwyd Capel Ebenezer ym 1823 a Capel Cefn y Waen ym 1825. Symudodd llawer o bobl o Ynys Môn i'r pentref, gyda rhai o ardal Llanbabo yn benodol, gan egluro llysenw'r pentref, sef Llanbabo[3] neu Llanbabs[4].
Ym 1857 adeiladwyd Eglwys Llandinorwig ar gyrion y pentref, gydag arian gan deulu Assheton-Smith o’r Faenol, perchenogion Chwarel Dinorwig.
Bu trychineb yn yr ardal yn 1899, pan aeth trip Ysgol Sul Eglwys Llandinorwig i Bwllheli a boddwyd deuddeg o’r aelodau, naw ohonynt yn blant, pan ddymchwelodd cwch yn y bae yno.
Caewyd Chwarel Dinorwig yn 1967, ac effeithiodd hyn yn fawr ar economi’r ardal. Erbyn hyn tair siop sydd yn Neiniolen, Y Post, Crefftau Elidir a'r Co-op. Mae Menter Fachwen yn cynnal caffi yn y pentref, ac mae dau dafarn yno. Rhed wasanaethau bws rheolaidd oddi yno i Gaernarfon a Bangor. Mae ysgol gynradd yn y pentref o hyd, sef Ysgol Gwaun Gynfi.
Mae Seindorf Arian Deiniolen yn adnabyddus iawn yn yr ardal, a chynhelir eisteddfod flynyddol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[6]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Gwenlyn Parry (1932-1991), dramodydd
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Idris Thomas Pel goch ar y dŵr: hanes trychineb Ysgol Sul Dinorwig (Gwasg Carreg Gwalch, 1999) ISBN 0-86381-586-3
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
- ↑ "Cyngor Cymuned Llanddeiniolen Community Council". cyngorllanddeiniolen.cymru. Cyrchwyd 2022-01-20.
- ↑ "BBC - Gogledd Orllewin - Buddugoliaeth i Gav a Band Llanbabs!". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-01-20.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ein bro: Deiniolen Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Seindorf Arian Deiniolen Archifwyd 2007-02-03 yn y Peiriant Wayback
-
Deiniolen
-
Y Stryd Fawr, Deiniolen
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr