Neidio i'r cynnwys

Nebo, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Nebo
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.03°N 4.2683°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH479505 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Nebo.

Pentref gwledig yn Arfon, Gwynedd, yw Nebo ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Lanllyfni, ger Pen-y-groes, a thua milltir i'r dwyrain o briffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Chricieth.

Y pentref agosaf yw Nasareth. Mae'r hen lôn o Lanllyfni yn rhedeg heibio i waelod Nebo ar ei ffordd i Garn Dolbenmaen. Ardal o hen dyddynoedd bychain ydyw yn bennaf, ar wasgar yn eu caeau ar y llethrau. Enwir Nebo ar ôl y capel lleol, un o sawl rhai yng Nghymru a enwyd ar ôl Mynydd Nebo yn yr Hen Destament.

Mae lôn yn arwain i fyny o Nebo i Lyn Cwmdulyn dan greigiau syrth Mynydd Graig Goch. Mae'r afonig sy'n rhedeg o'r llyn yn mynd heibio i'r pentref ar ei gwr gogleddol i ymuno yn Afon Crychddwr sy'n llifo wedyn i Afon Llyfni.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Ceir ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg yng nghanol y pentref, sef Ysgol Nebo, sy'n rhan o dalgylch Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]