Eigra Lewis Roberts
Eigra Lewis Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 7 Awst 1939 Blaenau Ffestiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, dramodydd, cyfarwydd, llenor |
Nofelwraig, dramodydd a storiwraig o Gymru ydy Eigra Lewis Roberts (ganwyd 7 Awst 1939).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd a mynychodd Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg Prifysgol Bangor. Bu'n dysgu am gyfnod byr, yng Nghaergybi, Llanrwst a Dolwyddelan.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Brynhyfryd, pan oedd ond yn ugain oed a chyhoeddwyd ei llyfr cyntaf yn y Saesneg, Return Ticket, yn 2006. Mae hi'n awdur nodedig sydd yn cael clod fel un o awduron pwysicaf yn y Gymraeg yn yr 60au a'r 70au[2], erbyn hyn mae wedi cyhoeddi tua 30 o lyfrau, yn nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu. Derbyniodd un o ysgoloriaethau’r Academi Gymreig ar gyfer awduron yn 2006.[3]
Yn yr 1980au roedd hi'n sgriptiwr ar y gyfres deledu boblogaidd, Minafon.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n byw yn Nolwyddelan.[4]. Mae'n briod a Llew ac mae ganddi dri o blant - Sioned, Urien a Gwydion.[1]
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 ac 1968, Tlws y Ddrama yn 1974. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006.[5]
- Derbyniodd radd anrhydedd MA gan Brifysgol Cymru yn 1998.[6]
- Enillodd ei llyfr, Oni Bai, le ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Brynhyfryd, 1959
- Y lle i mi: Drama fer yn ymwneud ag agwedd arbennig ar yr her i fywyd Cymru heddiw, 1965 (Gwasg Gomer)
- Tŷ ar y Graig, 1966 (Gwasg Gomer)
- Y Drych Creulon, 1968 (Gwasg Gomer dros lys yr Eisteddfod Genedlaethol)
- Cudynnau wyth stori fer, 1970 (Gwasg Gomer)
- Digon i'r diwrnod, 1974 (Gwasg Gomer)
- Siwgwr a Sbeis, Rhagfyr 1975 (JD Lewis)
- Fe ddaw eto, 1976: Cyfrol o storïau byrion (Gwasg Gomer)
- Byd o Amser, Gorffennaf 1976 (JD Lewis)
- Fe Ddaw Eto, Rhagfyr 1976 (JD Lewis)
- Ha' Bach, Gorffennaf 1985 (Gwasg Gomer)
- Mis o Fehefin (cyfrol o sgyrsiau radio), Awst 1980 (Gwasg Gomer)
- Seren Wib, Rhagfyr 1986 (Gwasg Gomer)
- Plentyn Yr Haul, Gorffennaf 1981 (Gwasg Gomer)
- Cymer a Fynnot, Awst 1988 (Gwasg Gomer)
- Llygad am Lygad, 1992 (Gwasg Gomer)
- Llen y Llenor: Kate Roberts, Mawrth 1994 (Gwasg Pantycelyn)
- Dant am Ddant, Mai 1996 (Gwasg Gomer)
- Dyddiadur Anne Frank (cyfieithiad o ddydiadur Anne Frank, Rhagfyr 1996 (Gwasg Carreg Gwalch)
- Rhoi'r Byd yn ei Le, Chwefror 1999 (Gwasg Gomer)
- Fy Hanes i: Blits: Dyddiadur Edie Benson, Llundain 1940-1941 (cyfieithiad o lyfr Vince Cross), Mai 2002 (Gwasg Gomer)
- Fy Hanes i: Mordaith ar y "Titanic": Dyddiadur Margaret Anne Brady, 1912 (cyfieithiad o lyfr Ellen Emerson White), 20 Hydref 2002 (Gwasg Gomer)
- Fy Hanes i: Streic: Dyddiadur Ifan Evans, Llwybrmain, Bethesda, 1899-1903, Gorffennaf 2004 (Gwasg Gomer)
- Cês Hana (cyfieithiad o lyfr Karen Levine), Mehefin 2005 (Gwasg Gomer)
- Oni Bai, Tachwedd 2005 (Gwasg Gomer)
- Return Ticket, Mawrth 2006 (Gwasg Gomer)
- Carreg wrth Garreg, Hydref 2007 (Gwasg Gomer)
- Rhannu'r Tŷ, Tachwedd 2007 (Gwasg Gomer)
- Tinboeth (gyda Caryl Lewis, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Gwyneth Glyn, Siân Northey a Fflur Dafydd), Tachwedd 2007 (Gwasg Gwynedd)
- Stori Edith, Mehefin 2008 (Gwasg Gomer)
- Hi a Fi, Hydref 2009 (Gwasg Gomer)
- Paid â Deud, Hydref 2011 (Gwasg Gomer)
- Parlwr Bach, Mai 2012 (Gwasg Gomer)
- Fel yr Haul, 2014 (Gwasg Gomer)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Eigra Lewis Roberts. BBC Lleol. Adalwyd ar 20 Mehefin 2016.
- ↑ "Welsh Writing 1960-1985, Ned Thomas, transcript-review.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ "DATGANIAD I'R WASG 2006, Academi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-14. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ "Bywgraffiad ar wefan Gwasg Gomer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2007-12-06.
- ↑ Eigra'n cipio'r Goron BBC Cymru 7 Awst 2006
- ↑ "Graddedigion er Anrhydedd, Prifysgol Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-20. Cyrchwyd 2007-12-06.