Lleucu Roberts
Gwedd
Lleucu Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 27 Medi 1964 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur plant, llenor |
Awdures plant Cymreig yw Lleucu Roberts (ganed 27 Medi 1964). Ganwyd Lleucu yn Aberystwyth a chafodd ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion, erbyn hyn mae hi'n byw yn Rhostryfan, Gwynedd.[1] Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Rhydypennau, Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn sgriptio ar gyfer y radio a'r teledu. Mae'n briod â dwy ferch a dau fab.
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio'r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.[2] Enillodd y Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith am yr eildro yn Eisteddfod AmGen 2021 am ei nofelau Hannah-Jane a Y stori Orau.[3] [4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Caneuon Heddwch (Y Lolfa, Ionawr 1991)
- Al (Cyfres y Dolffin) (Cwmni Iaith, Mawrth 1996)
- Iesu Tirion (Y Lolfa, Ebrill 2005)
- Troi Clust Fyddar (Y Lolfa, Tachwedd 2005)
- Tinboeth (gyda Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Gwyneth Glyn, Siân Northey a Fflur Dafydd) (Gwasg Gwynedd, Tachwedd 2007)
- Annwyl Smotyn Bach (Y Lolfa, Ionawr 2008)
- Y Ferch ar y Ffordd (Y Lolfa, Gorffennaf 2009)
- Stwff – Guto S. Tomos (Cyfres yr Onnen) (Y Lolfa, Mawrth 2010)
- Nain/Mam-gu (Gwasg Gwynedd, Tachwedd 2010)
- Wel, Gymru Fach (Cyfres y Dderwen) (Y Lolfa, Mehefin 2011)
- Siarad (Cyfres y Dderwen) (Y Lolfa, Hydref 2011)
- Rhyw Fath o Ynfytyn (Y Lolfa, Awst 2012)
- Teulu (Y Lolfa, Tachwedd 2012)
- Oswald (Y Lolfa, Ionawr 2014)
- Rhwng Edafedd (Y Lolfa, Awst 2014)
- Saith Oes Efa (Y Lolfa, Medi 2014)
- Jwg ar Seld (Y Lolfa, Tachwedd 2016)
- Hannah-Jane, (Y Lolfa, Awst 2021)
- Y stori Orau, (Y Lolfa, Awst 2021)
Gwobrau ac Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Gwobr Tir na n-Og 2009 ar gyfer Annwyl Smotyn Bach
- Gwobr Tir na n-Og 2011 ar gyfer Stwff – Guto S. Tomos
- Gwobr Goffa Daniel Owen 2014 a 2021
- Medal Ryddiaith 2014 a 2021
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Annwyl Smotyn Bach. Gwales.com. Adalwyd ar 12 Mai 2011.
- ↑ Y Dwbl i Lleucu golwg360.com 6 Awst 2104
- ↑ Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2021.
- ↑ Y dwbl i Lleucu Roberts wrth ennill y Fedal Ryddiaith , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2021.
Categorïau:
- Enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen
- Enillwyr y Fedal Ryddiaith
- Genedigaethau 1964
- Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif
- Llenorion Cymreig yr 21ain ganrif
- Llenorion plant Cymraeg
- Nofelwyr Cymraeg
- Nofelwyr plant
- Pobl o Geredigion
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig