Eluned Morgan (gwleidydd)
- Gweler hefyd Eluned Morgan (gwahaniaethu).
Y Gwir Anrhydeddus Y Farwnes Morgan o Drelái AS | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |||||||||||||||||||||
Prif Weinidog Cymru | |||||||||||||||||||||
Deiliad | |||||||||||||||||||||
Cychwyn y swydd 6 Awst 2024 | |||||||||||||||||||||
Teyrn | Siarl III | ||||||||||||||||||||
Dirprwy | Huw Irranca-Davies | ||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Vaughan Gething | ||||||||||||||||||||
Arweinydd Llafur Cymru | |||||||||||||||||||||
Deiliad | |||||||||||||||||||||
Cychwyn y swydd 24 Gorffennaf 2024 | |||||||||||||||||||||
Dirprwy | Carolyn Harris | ||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Vaughan Gething | ||||||||||||||||||||
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg[a] | |||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 13 Mai 2021 – 6 Awst 2024 | |||||||||||||||||||||
Prif Weinidog | Mark Drakeford Vaughan Gething | ||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Vaughan Gething | ||||||||||||||||||||
Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant | |||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 8 Hydref 2020 – 13 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||
Prif Weinidog | Mark Drakeford | ||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Lynne Neagle | ||||||||||||||||||||
Gweinidog y Gymraeg[b] | |||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 3 Tachwedd 2017 – 13 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||
Prif Weinidog |
| ||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Alun Davies | ||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Jeremy Miles | ||||||||||||||||||||
Aelod o Senedd Cymru dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru | |||||||||||||||||||||
Deiliad | |||||||||||||||||||||
Cychwyn y swydd 5 Mai 2016 | |||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Rebecca Evans | ||||||||||||||||||||
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi Lord Temporal | |||||||||||||||||||||
Deiliad | |||||||||||||||||||||
Cychwyn y swydd 26 Ionawr 2011 Arglwydd am Oes | |||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||
Manylion personol | |||||||||||||||||||||
Ganwyd | Caerdydd | 16 Chwefror 1967||||||||||||||||||||
Cenedligrwydd | Cymru | ||||||||||||||||||||
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru | ||||||||||||||||||||
Gwefan | elunedmorgan.cymru |
Gwleidydd Llafur yw Eluned Morgan (ganed 16 Chwefror 1967) sydd yn Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru ers 2024.[1] Mae wedi bod yn Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers Mai 2016. Roedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru o 1999 i 2009.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganed hi i'r parchedig gannon Bob Morgan OBE ac Elaine Morgan, yn Nhrelái, Caerdydd, llei'i maged, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Coleg yr Iwerydd a Phrifysgol Hull. Roedd ei thâd, Bob, yn gyn arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gweithiodd fel ymchwilydd i S4C a'r BBC ac fel Stagiaire yn y Senedd Ewropeaidd yn 1990. Pan oedd yn 27 oed, etholwyd hi'n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn 1994, yr ASE ieuengaf ar y pryd.
Fe'i penodwyd i Dŷ'r Arglwyddi yn 2010 fel Barwnes Morgan o Drelái[2], a bu'n Llefarydd yr Wrthblaid ar Faterion Cymreig yno o 2013 i 2016.
Etholwyd Eluned Morgan yn Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.
Yn 2017 fe'i gwnaed yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn Hydref 2020 fe'i gwnaed yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg er mwyn i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r coronafirws a pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[3]
Yng Ngorffennaf 2024 cyhoeddodd Vaughan Gething y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ac fel Prif Weinidog. Yr wythnos ganlynol cyhoeddodd Morgan byddai'n sefyll fel arweinydd nesaf Llafur, gyda Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.[4] Ni chafwyd unrhyw enwebiadau arall ar gyfer yr arweinyddiaeth ac felly cyhoeddwyd Morgan fel arweinydd ar 24 Gorffennaf 2024. Hi yw arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru.[1]
Mewn cyfweliad, dywedodd ei fod yn bwysig "ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru". Ychwanegodd fod hyn yn "ymwneud â throi tudalen newydd".[5] Fe'i etholwyd yn Brif Weinidog ar 6 Awst 2024 mewn cyfarfod arbennig o'r Senedd.[6]
Senedd Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Rebecca Evans |
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru 2016 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Senedd Ewrop | ||
Rhagflaenydd: David Morris |
Aelod Senedd Ewrop dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru 1994 – 1999 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru 1999 – 2009 gyda Jill Evans, Jonathan Evans, Glenys Kinnock ac Eurig Wyn (1999-2004) |
Olynydd: John Bufton Jill Evans Kay Swinburne Derek Vaughan |
Nodiadau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Eluned Morgan yw arweinydd newydd Llafur Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-24. Cyrchwyd 2024-07-24.
- ↑ http://www.parliament.uk/biographies/lords/baroness-morgan-of-ely/4226
- ↑ Penodi Eluned Morgan yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg , Golwg360, 8 Hydref 2020.
- ↑ "Eluned Morgan yn debygol o ddod yn Brif Weinidog Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-07-23. Cyrchwyd 2024-07-23.
- ↑ "Eluned Morgan: 'Pwysig ymddiheuro i'r cyhoedd'". BBC Cymru Fyw. 24 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Eluned Morgan yn cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-06. Cyrchwyd 2024-08-06.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Eluned Morgan yn siarad yn y Llyfrgell Genedlaethol Archifwyd 2020-08-15 yn y Peiriant Wayback am bwysigrwydd Wicipedia Cymraeg.
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Aelodau Senedd Cymru 2021-2026
- Aelodau Senedd Ewrop
- Arglwyddi am oes
- Cyn-fyfyrwyr Coleg yr Iwerydd
- Genedigaethau 1967
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Gwleidyddion yr 21ain ganrif o Gymru
- Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)
- Prif Weinidogion Cymru
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
- Pobl o Gaerdydd