Grand Theft Auto: Liberty City Stories
Grand Theft Auto: Liberty City Stories | |
---|---|
Datblygwyr | |
Cyhoeddwyr | {Nodyn:Publisher |
Cynhyrchwyr | Leslie Benzies |
Dylunyddion | David Bland |
Rhaglenwyr |
|
Darlunwyr | Aaron Garbut Ian Bowden |
Awduron |
|
Cyfres | Grand Theft Auto |
Llwyfanau | |
Cyhoeddi | 24 Hydref 2005
|
Genre | Antur Arwaith |
Modd | Unigolyn (PS2), mwy nag un (PSP) |
Mae Grand Theft Auto: Liberty City Stories yn gêm fideo antur byd agored. Fe'i datblygwyd gan gwnni Rockstar Leeds ar y cyd a'i chwaer gwmni Rockstar North. Cafodd ei gyhoeddi gan Rockstar Games. Fe'i rhyddhawyd ar 24 Hydref 2005 ar gyfer system PlayStation Portable. Dyma'r nawfed gêm yn y gyfres Grand Theft Auto. Ei rhagflaenydd, o ran dyddiad cyhoeddi oedd Grand Theft Auto: San Andreas a'i olynydd o ran dyddiad cyhoeddi oedd Grand Theft Auto: Vice City Stories . O ran olyniaeth yn nhrefn stori GTA mae'n rhagflaenu hanes Grand Theft Auto III. Cafodd ei rhyddhau ar gyfer PlayStation 3 ar 2 Ebrill 2013. Cafodd fersiynau ar gyfer iOS, Android a Fire OS eu rhyddhau rhwng Rhagfyr 2015 a Mawrth 2016.[1]
Chware'r gêm
[golygu | golygu cod]Wedi'i leoli o fewn dinas ddychmygol Liberty City, sy'n seiliedig ar Ddinas Efrog Newydd. Mae Grand Theft Auto: Liberty City Stories yn dilyn y cymeriad Antonio "Toni" Cipriani wrth iddo ddringo'r trwy rengoedd byd gangiau, troseddau a llygredd y Maffia.[2]
Mae'r gêm yn cael ei chwarae o safbwynt trydydd person, safbwynt lle bydd y chwaraewr, fel petai, mewn safle sefydlog y tu ôl ac ychydig yn uwch na'r cymeriad sy'n cael ei reoli ganddo.
Mae chwaraewyr yn arwain y prif gymeriad, Toni, i gwblhau tasgau penodol i fynd trwy'r stori. Mae'r tasgau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf.
Ynysoedd
[golygu | golygu cod]Mae Liberty City yn cynnwys tair bwrdeistref: Portland, Staunton Island, a Shoreside Vale; mae'r bwrdeistrefi wedi eu lleoli ar dair ynys. Ar ddechrau'r gêm dim ond un ynys sydd ar agor mae'r gweddill yn cael eu datgloi wrth i'r stori fynd yn ei flaen
Arfau
[golygu | golygu cod]Mae'r chwaraewr yn gallu gwneud i Toni cerdded, rhedeg neu yrru cerbydau a llongau er mwyn tramwyo byd y gêm. Mae'r cymeriad yn gallu defnyddio amrywiaeth eang o arfau gan gynnwys ei ddyrnau, arfau llaw, gynnau a saethwr rocedi. Mae'n gallu cael gafael ar arfau trwy eu dwyn gan wrthwynebwyr mae'n eu trechu, eu canfod wedi eu cuddio mewn mannau penodol ar y map[3], eu prynu gan werthwyr arfau neu trwy gasglu gwahanol niferoedd o eiconau cudd ar siâp parsel[4].
Iechyd
[golygu | golygu cod]Wrth i'r Toni ymosod ar eraill, maent yn wrth ymosod gan beri niwed iddo. Wrth iddo gael ei niweidio mae ei fesurydd iechyd yn dirywio. Mae Toni hefyd yn gallu defnyddio arfwisg i warchod ei iechyd, mae effeithlonrwydd yr arfwisg hefyd ar fesurydd sy'n dirywio wrth iddo dderbyn niwed. Mae modd iddo ennill iachâd trwy godi eiconau iechyd ac arfwisg. Os yw ei iechyd yn cael ei golli'n llwyr mae Toni yn marw ac yn atgyfodi ger yr ysbyty agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian[5]. Mae faint o iechyd ac arfwisg sydd ganddo ar ôl yn cael ei arddangos ar HUD ar ben y sgrin chware.
Troseddu
[golygu | golygu cod]Os yw Claude yn cael ei weld yn troseddu gan yr heddlu yn ystod y gêm bydd yn ennill sêr troseddwr. Bydd nifer y sêr sydd gan Claude yn pennu pa mor frwd bydd yr heddlu yn ceisio ei ddal. Os yw'n cael ei ddal (Busted yw terminoleg y gêm) mae'n cael ei ryddhau yn unionsyth tu allan i'r swyddfa heddlu agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian.
Tasgau ymylol
[golygu | golygu cod]Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm. Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ymylol dewisol sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Ymysg y tasgau ochr mae tasg cael pobl i'r ysbyty mewn ambiwlans, tasg ymladd tân, a thasg gyrrwr tacsi. Mae cyflawni'r tasgau yn rhoi gwobrau cyd-destun penodol i Toni; er enghraifft, mae cwblhau'r dasg Ambiwlans yn caniatáu i Toni rhedeg yn di baid heb golli gwynt.[2]
Pecynnau
[golygu | golygu cod]Mae modd i Toni casglu hyd at gant o becynnau cudd. Bydd pob deg pecyn cudd mae'n canfod yn rhoi gwobr iddo. Bydd pob deg pecyn hyd at 90 yn ei wobrwyo ag arf ger ei guddfan. Bydd canfod y cant yn rhoi gwobr ariannol.
Terfysgoedd
[golygu | golygu cod]Amcan y tasgau terfysg (rampages) yw i Toni lladd neu ddinistrio nifer penodol o dargedau mewn cyfnod penodol o amser gan ddefnyddio arf a roddir i'r chwaraewr. Gall y targedau bod yn aelodau o gangiau neu gerbydau. Am bob terfysg a gyflawnir yn llwyddiannus bydd gwobr ariannol gan ddechrau efo $50 am gyflawni'r cyntaf $100 am gyflawni'r ail ac ati, hyd gael $1000 am gyflawni'r ugeinfed. Bydd cyflawni'r 20 terfysg hefyd yn rhoi gwn peiriant cryf, yr M60, wrth ymyl cuddfannau Toni.[6]
Swyddi
[golygu | golygu cod]Mae 17 tasg ymylol lle mae Toni yn gallu gwneud swyddi i ennill arian ychwanegol.[7]
Enw'r Dasg | Disgrifiad | Gwobr |
---|---|---|
Vigilante | Defnyddio cerbyd heddlu, FBI neu filwrol i ddal troseddwyr. Mae 12 lefel. Yn lefel 1 rhaid dal 1 troseddwr, 2 yn lefel 2 ac ati. Rhaid cyflawni'r holl lefelau mewn un ymgais. | Cynyddu cryfder yr arfwisg . |
Paramedic | Defnyddio Ambiwlans i fynd a chleifion i'r ysbyty. Mae 12 lefel. Yn lefel 1 rhaid achub 1 claf, 2 yn lefel 2 ac ati. Rhaid cyflawni'r holl lefelau mewn un ymgais | Y gallu i redeg heb golli anadl |
Firefighter | Defnyddio injan dân i ddiffodd cerbydau a phobl sydd ar dân. Mae 12 lefel. Yn lefel 1 rhaid diffodd 1 tan, 2 yn lefel 2 ac ati. Rhaid cyflawni'r holl lefelau mewn un ymgais | Mae Toni yn gallu mynd trwy dân heb ei ladd na'i losgi |
Taxi | Codi 100 o deithwyr mewn tacsi. Does dim rhaid cwblhau'r cyfan mewn un eisteddiad. | Tacsi gyda thra-chywasgwr i wneud iddo redeg ynghynt yn ymddangos yn yr orsaf dacsis |
Avenging Angels | Rhaid gwisgo gwisg gwarchodwr a chael hyd i aelod arall o'r gwarchodwyr i dderbyn y dasg ganddo. Rhaid lladd gangiau o droseddwyr i gyflawni lefel. Mae 15 lefel a'r bob ynys. | Ar Ynys Shoreside Vale: Gwisg archarwr.
Ar Ynys Portland: Beic nad oes modd ei niweidio trwy saethu ato. |
Trash Dash | Defnyddio lori bins i gasglu 36 bin lludw (12 ar bob ynys) | Gwobr ariannol |
Car Salesman | Gwerthu ceir o'r garej yn Portland i gwsmeriaid sy'n disgwyl i'w prynu. Mae Toni yn mynd a'r cwsmeriaid am daith prawf yn y ceir. I sicrhau gwerthiant rhaid gyrru yn y modd mae'r cwsmer eisiau boed araf neu gyflym ac ati. Rhaid cyflawni 6 lefel gyda 4 car ym mhob lefel. | Gwobr ariannol |
Noodle Punk | Mynd ar sgwter dosbarthu nwdls a chyflenwi cwsmeriaid gyda phecyn o nwdls poeth o fewn amser penodedig. Mae 10 lefel. Yn lefel 1 rhaid cyflenwi 1 pryd, 2 yn lefel 2 ac ati. Rhaid cyflawni'r holl lefelau mewn un ymgais. | Calon Toni yn cryfhau 25%, sy'n golygu ei fod yn gallu cael ei niweidio yn hirach cyn cael ei ladd. |
9MM Mayhem | Mynd ar gefn beic modur sy'n cael ei yrru gan gymeriad arall a saethu gelynion sydd yn dilyn y beic. Mae gan Toni 3.5 munud i saethu deg targed. Rhaid sicrhau nad yw'r beic yn cael ei ddifrodi na'r gyrrwr ei ladd gan y gelynion | Gwobr ariannol |
Scooter Shooter | Yr un dasg, i bob pwrpas, a 9MM Mayhem, ond ar gefn sgwter yn lle beic | Gwobr ariannol |
Slash TV | Mynd i mewn i long yn nociau Portland lle fydd nifer fawr o elynion yn ceisio lladd Toni gyda llif gadwyn. Mae rhaid i Toni goroesi'r ymosodiad trwy saethu'r gelynion | Gwisg cyw iâr a gynau. |
Bikes Salesman | Yn debyg iawn i Car Salesman uchod ond gan werthu beiciau o siop beiciau modur ar ynys Portland. Mae 10 lefel gyda 4 beic i'w gwerthu ym mhob lefel. | Gwobr ariannol |
Pizza Delivery | Yr un fath a Noodle Punk ond gan gyflenwi pizzas i'r cwsmeriaid | Calon Toni yn cryfhau 25%, sy'n golygu ei fod yn gallu cael ei niweidio yn hirach cyn cael ei ladd. |
Karmageddon | Defnyddio injan dân i ladd pobl ac i ddifrodi cerbydau | Gwobr ariannol |
Love Media Car List | Dwyn 16 o geir penodol a'u cyflenwi i garej cwmni Love Media | Car a beic modur gwastad ar gael ger y guddfan ar ynys Staunton |
AWOL Angel | Yr un dasg, i bob pwrpas, a 9MM Mayhem, ond ar gefn beic modur gang yr Angels | Gwobr Ariannol |
See The Sights Before Your Flight | Codi ymwelwyr ger y maes awyr, mynd i gyrchfan twristaidd penodedig a thynnu llun o'r ymwelwr a'r cyrchfan. Rhaid tynnu 12 llun i gyflawni'r dasg. | Car tebyg i Landrofer nod oes modd ei ddifrodi gyda bwledi. |
Neidiau unigryw
[golygu | golygu cod]Mae naid unigryw yn naid mewn cerbyd oddi ar ramp o ryw fath (weithiau ramp go iawn, neu strwythur arall sy'n tueddu at ei fynnu megis to neu risiau), aros yn yr awyr am ychydig eiliadau ac yna glanio heb ddamwain. Mae gan bob naid unigryw mannau esgyn a glanio penodedig o fethu'r naill neu'r llall bydd dasg y naid yn methu. Os yw'r cerbyd yn cyrraedd man esgyn yn gywir, bydd y gêm yn troi at olygfa banoramig mewn amser araf wrth i'r cerbyd cael ei lansio (sef y brif ffordd o wybod ei fod yn naid unigryw yn hytrach na naid gyffredin). Ar ôl glanio bydd neges yn ddweud os fu'r naid yn llwyddiannus neu beidio. Mae yna 26 o neidiau unigryw yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories ac mae angen cyflawni pob un ohonynt i gael record 100% wrth chwarae'r gêm
Rasys
[golygu | golygu cod]Mae nifer o rasys moduron ar gael fel tasgau ymylol yn y gêm. Mae rhai o'r rasys yn rhai lle mae Toni yn rasio fel unigolyn yn erbyn y cloc. Mae'r cymeriad yn mynd ar feic modur neu i mewn i gerbyd sydd wedi parcio mewn lle penodedig ac yn gorfod dilyn llwybrau sydd wedi eu marcio gyda chylchoedd cyn i amser rhedeg allan.
Mae rhai o'r rasys yn cael eu cyflawni trwy ddefnyddio cerbydau rheolaeth bell. Mae Toni yn mynd i mewn i fan cwmni "RC Toys" i gychwyn ras yn erbyn cerbydau reolaeth bell eraill. Yn un o'r tasgau tegan reolaeth bell mae disgwyl defnyddio'r cerbyd i ladd gelynion yn hytrach nag i rasio.
Mae gweddill y rasys yn rhai lle mae Toni yn ateb ffôn cyhoeddus mewn gwahanol rannau o'r ddinas. Bydd y person sy'n gwneud y galwad yn rhoi her i Toni i rasio yn erbyn cymeriadau eraill ac yn rhoi gwybod iddo os yw'r ras yn un car neu feic modur.
Plot y brif stori
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau'r gêm mae clip sy'n cyflwyno'r cymeriad yn dychwelyd adre i Liberty City, wedi cyfnod i' ffwrdd o'r ddinas. Roedd wedi mynd yn alltud er mwyn cadw proffil isel ar ôl iddo "cyflawni gweithred fawr" dros deulu Leone[8]. Wedi dychwelyd mae Toni yn canfod bod aelodau eraill y gang wedi dringo'r i safleoedd o bwys yn ei absenoldeb tra ei fod o yn dal i gael ei ystyried fel un o'r troed filwyr sydd dal ar waelod y domen. Mae Salvatore Leone, pennaeth y teulu, yn disgwyl i Toni gweithio fel gwas i Vincenzo Cilli, un o'r dynion sydd wedi dringo'r ystôl yn absenoldeb Toni. Dydy o ddim yn hapus efo'r sefyllfa ac mae anghydfod yn codi rhwng Toni a'i bos newydd. Mae tonni yn gorfod gwneud tasgau i Vincenzo, sydd yn ei drin o fel baw. Mae o hefyd yn gwneud gwaith uniongyrchol i Salvatore sy'n codi eiddigedd Vincenzo. Un o'r swyddi israddol mae Vincenzo yn rhoi i Toni yw mynd i gasglu ei gar. Wrth fynd i mewn i'r car mae'n canfod bod yr heddlu yn ei wylio gan fod Vincenzo wedi dweud wrthynt fod Toni wedi ei ddwyn. Mae Toni yn ffoi rhag yr heddlu ac yn distrywio'r car mewn dial. Mae Vincenzo yn denu Toni i ymweld â llong nwyddau yn yr harbwr, lle mae o'n bwriadu ei ladd; ond mae Toni yn ei drechu a Vincenzo sydd yn marw yn y pendraw.
Yn ogystal â gweithio i deulu Leone bydd Toni hefyd yn cael tasgau gan Daniel "JD" O'Toole, sy'n cadw clwb rhiw; Toshiko Kasen pennaeth y maffia Siapaneaidd; Leon McAffrey heddwas llwgr ac eraill.
Yn ystod ei alltudiaeth hyd iddo ddychwelyd i'r ddinas ym 1998 collodd Toni cysylltiad a'i fam, Ma Cipriani. Hyd yn oed wedi dychwelyd, nid yw'n cysylltu â'i mam yn syth gan iddo ddechrau gweithio i Vincenzo Cilli dan orchymyn Salvatore Leone. Wrth iddo ail gysylltu â Ma, mae hi'n dechrau ei gymharu â dynion eraill yn y ddinas fel Cilli a Giovanni Casa, gan honni nad yw'n ei thrin hi cystal ag y maent hwy'n trin eu mamau. Mae Toni yn gorfod gwneud cyfres o dasgau i geisio profi i Ma ei fod o'n well na dynion eraill y ddinas ac yn gystal aelod o'r maffia ag oedd ei dad. Methiant yw pob ymgais i blesio Ma. Mae hi'n rhoi "Hit" ar Toni, yn cyflogi gang i'w saethu; fel y bydd, o leiaf, yn farw fel dyn.[9]
Mae llawer o dasgau Toni yn y gêm yn ymwneud â brwydro yn erbyn y gangiau eraill yn y ddinas, yn arbennig y ddau deulu maffia arall Teulu Forelli a Theulu Sindacco. Mae ei lwyddiant yn arwain iddo gael ei urddo yn Uomo compiuto (Dyn o Anrhydedd; Saesneg: Made Man)[10] tua hanner ffordd trwy'r gêm. Mae hyn yn plesio Ma ac mae hi'n gorchymyn i'w llofruddwyr i sefyll i lawr.
Mae Toni yn llofruddio Roger C. Hole, maer y ddinas[11]. Yn yr isetholiad olynol mae o'n ymgyrchu ar ran y biliwnydd Donald Love. O ganfod bod Love ym mhoced teulu Leone mae'r etholwyr yn troi yn ei erbyn ac yn ethol ei wrthwynebydd Miles O'Donovan, dyn sydd ym mhoced Teulu Forelli. Mae'r maer newydd yn sicrhau bod yr heddlu yn arestio Salvatore Leone. Wrth gael ei hebrwng o swyddfa'r heddlu i'r carchar mae Toni yn ei helpu i dorri'n rhydd. Mae Toni a Salvatore yn mynd i weld y maer i geisio gwneud dêl efo i sicrhau gollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn. O gyrraedd neuadd y ddinas maent yn canfod bod Massimo Torini, aelod blaenllaw o Mafia Sisili sydd ddim am weld dêl yn cael ei wneud wedi herwgipio'r maer. Mae Toni a Salvatore yn erlid Massimo, yn ei ladd ac yn achub y maer. Bellach mae safle Salvatore fel prif mobster Liberty City wedi sicrhau ac mae Toni yn cael ei godi yn Capo regime, neu ddirprwy iddo.
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Grand Theft Auto: Liberty City Stories adolygiadau "cyffredinol ffafriol" gan feirniaid, yn ôl y cwmni cyfartalu adolygiadau Metacritic.
Derbyniad Beirniadol | |
---|---|
Cwmni Cyfartalu | Sgoriau'r Adolygwyr |
Metacritic | (PSP) 88/100[12] (PS2) 78/100[13] |
Sgorau | |
Eurogamer | 9.0/10[14] |
G4 | 4/5[15] |
Game Spot | 8.6/10[16] |
GameTrailers | 9.1/10[17] |
IGN | 9.0/10[18] |
OPM (UK) | 9.0/10[19] |
Gwerthiant
[golygu | golygu cod]Yn yr Unol Daleithiau, gwerthodd y fersiwn PlayStation 2 o Liberty City Stories 1 miliwn o gopïau erbyn mis Chwefror 2007[20]. Roedd fersiwn PSP Liberty City Stories wedi gwerthu 980,000 o gopïau ac ennill $ 48 miliwn yn UDA erbyn Awst 2006. Yn y cyfnod rhwng Ionawr 2000 ac Awst 2006, roedd y gêm yn safle 16eg o'r rhestr o gemau a gwerthiant uchaf ar gyfer y Game Boy Advance, Nintendo DS neu PlayStation Portable yn y UDA.[21] Erbyn 26 Mawrth 2008, roedd y gêm wedi gwerthu 8 miliwn o gopïau yn ôl Take-Two Interactive.[22] Derbyniodd Fersiwn PSP o Liberty City Stories wobr gwerthiant "Platinwm Dwbl" gan y Gymdeithas Cyhoeddwyr Meddalwedd Adloniant a Hamdden (ELSPA),[23] i nodi gwerthiant o dros 600,000 o gopïau yn y Deyrnas Unedig.[24] Rhoddodd ELSPA ardystiad "Platinwm" i fersiwn PlayStation 2 y gêm,[25] ar gyfer gwerthu dros 300,000 o gopïau ym Mhrydain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lucid Games: Grand Theft Auto: Liberty City Stories returns to mobile devices Archifwyd 2018-10-16 yn y Peiriant Wayback adalwyd 19 Hydref 2018
- ↑ 2.0 2.1 Boggen, Tim; Bradygames Official Strategy Guide to Grand Theft Auto :Liberty City Stories; 2006 ISBN 0-7440-0763-1
- ↑ "Weapon locations (GTA III)". WikiGTA. Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Hobby Consollas Coleccionables". Hobby Consollas. 01/05/2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "GTA Wiki Health". GTA Wiki. 01/05/2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Grand Theft Auto: Liberty City Stories – Guides and FAQs adalwyd 19 Hydref 2018
- ↑ Neoseeker: List of missions in Grand Theft Auto: Liberty City Stories adalwyd 19 Hydref 2018
- ↑ IMDB Grand Theft Auto Liberty city stories adalwyd 9 Mehefin 2018
- ↑ Grand Theft Wiki: Ma Cipriani adalwyd 19 Hydref 2018
- ↑ Adolygiad o'r gêm ar gamespot adalwyd 19 Hydref 2018
- ↑ Liberty Tree 30 Hydref 1998 (Llawlyfr y gêm)
- ↑ "Grand Theft Auto: Liberty City Stories (PSP)". Metacritic. Cyrchwyd 30 Medi 2017.
- ↑ "Grand Theft Auto: Liberty City Stories (PS2)". Metacritic. Cyrchwyd 30 Medi 2017.
- ↑ Bramwell, Tom (4 Tachwedd 2005). "Grand Theft Auto: Liberty City Stories Review". Eurogamer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-25. Cyrchwyd 30 Medi 2017.
- ↑ Grand Theft Auto: Liberty City Stories Review ar YouTube
- ↑ Gerstmann, Jeff (28 Hydref 2005). "Grand Theft Auto: Liberty City Stories Review for PSP". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2005. Cyrchwyd 31 Hydref 2005. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Grand Theft Auto: Liberty City Stories". GameTrailers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2010. Cyrchwyd 22 Medi 2010. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Castro, Juan (24 Hydref 2005). "Grand Theft Auto: Liberty City Stories". IGN. Cyrchwyd 30 Medi 2017.
- ↑ "Grand Theft Auto: Liberty City Stories". Official UK PlayStation 2 Magazine. Rhif. 67. Christmas 2005.
- ↑ "The Games People Buy 2007". Edge. 6 Chwefror 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 September 2012. Cyrchwyd 6 Chwefror 2007. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Keiser, Joe (2 Awst 2006). "The Century's Top 50 Handheld Games". Next Generation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2007. Cyrchwyd 2 Awst 2006. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Recommendation of the Board of Directors to Reject Electronic Arts Inc.'s Tender Offer" (PDF). TakeTwoValue.com. Take-Two Interactive. 26 March 2008. t. 12. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 April 2008. Cyrchwyd 1 Ebrill 2008. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "ELSPA Sales Awards: Double Platinum". ELPSA.com. Entertainment and Leisure Software Publishers Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mai 2009. Cyrchwyd 20 Mai 2009. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Caoili, Eric (26 Tachwedd 2008). "ELSPA: Wii Fit, Mario Kart Reach Diamond Status In UK". Gamasutra. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2017. Cyrchwyd 18 Medi 2017. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "ELSPA Sales Awards: Platinum". ELSPA.com. Entertainment and Leisure Software Publishers Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mai 2009. Cyrchwyd 15 Mai 2009. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help)