Neidio i'r cynnwys

Grand Theft Auto: Llundain 1969

Oddi ar Wicipedia
Pecyn Estyn Grand Theft Auto # 1:
Llundain 1969
Clawr y gêm
Datblygwr Rockstar Canada
Cyhoeddwr Rockstar Games
Cyfarwyddwr Greg Bick
Cynhyrchwyr
  • Dan Houser
  • Gary J. Foreman
  • Lucien King
Dylunwyr
  • Greg Bick
  • Sergei Kuprejanov
  • Blair Renaud
Rhaglenwyr
  • Kevin Hoare
  • Gary J. Foreman
Artistiaid
  • Ray Larabie
  • Adam Holbrough
  • Pete Armstrong
Ysgrifennwr Dan Houser
Cyfres Grand Theft Auto
Llwyfan (au) MS-DOS
Microsoft Windows
PlayStation
Rhyddhau MS-DOS
Microsoft Windows
  • Gogledd America:
    31 Mawrth 1999
  • UE: 31 Mawrth 1999

PlayStation

  • Gogledd America:
    30 Ebrill 1999
  • UE: 30 Ebrill 1999
Genre Antur
Modd Chwaraewr sengl

Pecyn ehangu ar gyfer gêm Grand Theft Auto 1 yw Grand Theft Auto, London 1969 sy'n cynnwys tasgau ychwanegol i'r chwarewr fel estyniad i'r gêm wreiddiol.

Llundain 1969

[golygu | golygu cod]

Mae Pecyn Tasgau Estyn Grand Theft Auto #1: London 1969 neu Grand Theft Auto: London 1969 yn becyn ar gyfer Grand Theft Auto. Datblygwyd y pecyn gan Rockstar Canada ac fe'i cyhoeddwyd gan Rockstar Games ar 31 Mawrth 1999 ar gyfer Microsoft Windows ac ar 30 Ebrill 1999 ar gyfer PlayStation. Enillodd y gêm gwobr BAFTA ar gyfer Adloniant Rhyngweithiol yn y categori Sain ym 1999.[1]

Mae'r gêm yn cynnig 32 o dasgau newydd, yn ogystal â 30 o gerbydau newydd, sy'n perthyn i'r cyfnod, megis Jugular E-Type (sic). Mae'r gêm yn debyg iawn i'r Grand Theft Auto gwreiddiol oherwydd ei fod yn defnyddio'r un injan gêm ac yn cael ei chyflwyno yn yr un fformat o dasgau, adrannau a delweddu. Ar y PlayStation, mae angen y disg ar gyfer y gêm GTA gwreiddiol i chwarae Llundain 1969, ac ar y PC, mae angen copi o'r gwreiddiol hefyd er mwyn chwarae gyda modiau [2].

Fel mae'r enw yn awgrymu mae'r gêm wedi ei leoli yn Llundain ac mae iddi 4 pennod (neu lefel). Mae'r gêm bron yr un fath a'r gêm wreiddiol ac yn cynnwys elfennau tebyg megis y gallu i ddwyn a gwerthu ceir yn y dociau, llwgrwobrwyon yr heddlu, a garej lle gellir gosod bom mewn car er mwyn lladd gelynion. Y gwahaniaeth mwyaf yw pethau sydd yn benodol Seisnig megis siâp hetiau'r heddlu a gyrru ar ochr chwith y ffordd. Mae llwyddo ar dasg yn cael ei wobrwyo gan acen Cocni yn ddweud "Nice on mi Beauty!". Os yw'r chwaraewr yn cael ei ddal gan yr heddlu bydd yr heddwas yn ddweud "You're Nicked!" yn hytrach na'r "busted" Americanaidd. Yn yr un modd yn hytrach na'r "wasted" gwreiddiol pan fo cymeriad yn marw mi fydd yn "Brown Bread", sliciaith odli Cocni am wedi marw/dead.

Mae gan y gêm 4 lefel neu bennod:

  • Pennod 1 - Boys will be Thieves
  • Pennod 2 - Mods and Sods
  • Pennod 3 - Chelsea Smile
  • Pennod 4 - Dead Certainty

Un dasg sydd yn y bennod gyntaf, sef ddwyn sgwter ar gyfer Mam yr efeilliaid Albert ac Archie Crisp (wedi selio ar yr efeilliaid troseddol, go iawn, Ronnie a Reggie Kray). O lwyddo yn y dasg bydd y chwaraewr yn cael ei gyflwyno i Harold Cartwright, pennaeth gang y teulu Cartwright gan gychwyn ar gyfres o dasgau i drechu'r Mods. Roedd y Mods yn rhan o is-ddiwilliant Prydain yn y 1950au a'r 1960au, a oedd yn nodedig am yrru sgwteri modur ac am wisgo siwtiau wedi eu teilwra. Cafwyd nifer o frwydrau rhyngddynt a'r Rockers gyrwyr beiciau modur a oedd yn gwisgo'n wahanol ac yn mwynhau gwahanol fath o gerddoriaeth.[3]

Wedi cyflawni holl dasgau Mods and Sods ac ennill £100,000 bydd y chwaraewr yn symud ymlaen i'r drydedd bennod Chelsea Smile. Yn y drydedd bennod mae'r chwaraewr yn gweithio i Fob Llundain sy'n cael ei reoli gan y brodyr Crisp ac yn gorfod cyflawni 11 tasg ac ennill £300,000 cyn symid ymlaen i'r bedwaredd bennod Dead Certainty. Yn y bedwaredd bennod, Dead Certainty mae'r chwaraewr yn ymladd yn erbyn y Mob ac, yn y pendraw, yn lladd y brodyr Crisp. Wedi lladd y brodyr ac wedi ennill £300,000 mae'r chwaraewr yn rheoli is-fyd troseddol Llundain ac mae'r gêm yn dod i ben.

Derbyniad beirniadol

[golygu | golygu cod]

Cafodd Grand Theft Auto: Llundain 1969 ei ryddhau i adolygiadau cymysg. Rhoddodd GameRankings, sy'n rhoi sgôr wedi ei normaleiddio yn ystadegol allan o 100, sgôr gyfartaledd o 75% yn seiliedig ar naw adolygiadau ar gyfer y fersiwn Microsoft Windows, tra bod fersiwn y PlayStation wedi sgorio 69% yn seiliedig ar un ar ddeg o adolygiadau.[4]

Yn gyffredinol cafodd yr ehangiad ei feirniadu am wella dim bron ar y gwreiddiol. Yn ôl Jeff Gerstmann o GameSpot roedd y gêm yn "barhau i lwyddo i fod yn weddol hwylus" ond yn dod i'r casgliad ei fod "mewn gwirionedd dim yn dal cannwyll i GTA gwreiddiol dros dair dinas".

Yr un peth a chafodd beirniadaeth dda oedd y trac sain ar y rhaglenni radio oedd yn cyd-fynd a'r gêm, gyda beirniaid yn cytuno ei fod yn creu naws Llundain diwedd y 1960au

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Interactive | Sound in 1999". British Academy Film Awards. British Academy of Film and Television Arts. Cyrchwyd 30 October 2016.
  2. GTA Wikia Grand Theft Auto: London 1969 Main Theme adalwyd 05/06/2018
  3. BBC Mods & Rockers "When two tribes go to war"; adalwyd 05/06/2018
  4. "Grand Theft Auto Mission Pack #1: London 1969 for PlayStation". GameRankings. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-26. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2016.